Mae cyfrol gan fardd ag artist yn ymateb i ddigwyddiadau gwleidyddol y blynyddoedd diweithaf

Mae’r casgliad dwyieithog o gerddi, Rhwng Dau Bla, gan y bardd Siôn Aled a’r artist Iwan Bala, yn cynnwys ymatebion y ddau i effaith Brexit a Covid-19 ar Gymru a’r byd.

Drwy’r gwaith yn y gyfrol, ceir dyddiadur, mewn celf a cherdd, o’r cyfnod.

Ganwyd Siôn Aled ym Mangor, ac mae e wedi treulio cyfnodau yn byw yn Borneo, yr Alban ac Awstralia. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r cyffiniau yn 1981.

Mae Iwan Bala, sydd yn byw yng Nghefneithin, yn arlunydd sydd wedi gweithio’n rhyngwladol.

Ychydig fisoedd yn ôl bu’n trafod dylanwad Brexit ar ei waith gyda golwg360.

“Rhaniadau”

“Pan ddigwyddodd Brexit, er gwaetha pob ymdrech i ddianc rhagddo, a’r gobaith creulon y gallem lwyddo i’w osgoi cyn caniatáu Etholiad trychinebus Rhagfyr 2019, roedd hi’n teimlo fel pe na fyddai dim byd gwaeth – ac yn syth ar ei sodlau, dyma Bla gwaeth fyth!” meddai Siôn Aled.

“Amlygodd Covid hefyd y gwahaniaethau a’r rhaniadau rhwng gwahanol rannau’r Deyrnas, gan hybu’r gobaith o bellhau oddi wrth San Steffan a chlosio o’r newydd at weddill Ewrop a’r byd.

“Roeddwn yn arbennig o frwd dros wneud yn siŵr bod y rhai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg yn deall y gwir oblygiadau y gallai Covid, Brexit ac ati eu cael ar y Gymraeg a’r cymunedau Cymraeg a’u diwylliant.”

“Dyletswydd”

Wrth drafod rôl artistiaid yn y byd gwleidyddol, dywedodd Iwan Bala: “Dw i wastad wedi teimlo fod gan yr arlunydd ddyletswydd i fod yn brofoclyd ac i drafod materion cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol.

“Roedd ymateb i arddangosfa o’r ‘cartwns’ Brexit ym Mhenarth yn 2017 yn profi gwerth y gwaith i mi.

“Holltwyd y gynulleidfa yn ddwy garfan, y rhai oedd yn cwyno fod y gwaith yn ‘bornograffic’ ac eraill oedd yn canmol y gwaith a’r syniadaeth tu ôl iddo.”

“Cysgod y ddau bla”

Mae Rhwng Dau Bla wedi’i gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, ac ar werth mewn siopau llyfrau nawr.

“Wrth i’r byd barhau i ymgodymu â galanas Covid-19, a chydag adladd distrywiol Brexit ond yn megis dechrau amlygu ei hun i’r rhan fwyaf o drigolion yr ynysoedd hyn, dyma gipolwg drwy lygaid bardd ac arlunydd ar gwrs eu byd yng nghysgod y ddau bla hynny.

“Ceir cofnod yma o’r modd y bu i lif arferol bywyd barhau drwy’r cyfan, fel mae’n gorfod gwneud. Dyma ddyddiadur, mewn celf a cherdd, o gyfnod yn ein hanes y gallwn ond hyderu y bydd yn llawn haeddu ei alw’n unigryw.”