Mae cerddoriaeth fyw yn araf bach yn dod yn ôl i normalrwydd unwaith eto yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19.
Bydd cyngerdd at ddant selogion jazz yn Theatr Clwyd, wrth i Driawd Tomos Williams berfformio mewn noson arbennig heno (3 Medi).
Maen nhw am chwarae cymysgedd o glasuron jazz, alawon gwerin Cymreig a baledi.
Bydd mesurau arbennig mewn lle, yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol a dod â chadair eich hunain ar gyfer y perfformiad, sy’n digwydd yn yr awyr agored.
Gig cynta’n ôl
Dyma fydd y tro cyntaf i Tomos Williams, sy’n gerddor mewn llu o fandiau jazz, chwarae’n fyw ers cychwyn y pandemig.
“Mae’n reit rhyfedd i fi,” meddai.
“Mae’r bois eraill yn y band wedi chwarae tipyn ers mis Awst, ond dyma fydd y gig cynta’ i fi wneud [ers y cyfnod clo].
“Fe wnaeth Theatr Clwyd gysylltu â fi nôl ym mis Mawrth yn cynnig hwn, felly mae’n neis iawn gallu mynd yna i chwarae.
“Triawd fyddwn ni heno – a fyddwn ni’n chwarae jazz efo effeithiau electroneg, felly mae e’n rhywbeth gwahanol.”
“Digwydd bod dyna wnaethon ni yn y gig olaf cyn y lockdown hefyd!”
Angen clybiau jazz
Wrth drafod y sin jazz yng Nghymru, mae Tomos yn credu bod lle i wella o ran cyfleon i berfformwyr, gan fod diffyg llefydd i chwarae’n fyw a meithrin talent.
“Mae lot o gerddorion mas yna, ond mae’r sefyllfa’r sin bron yn drychinebus achos does dim clwb Jazz yng Nghaerdydd nag Abertawe dim mwy,” meddai.
“Mae ‘na ambell le yn agor mae’n debyg, ond prin yw’r cyfleoedd i chwarae jazz yng Nghymru erbyn hyn.
“Mae theatrau fel Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Pontio yn rhoi nosweithiau ymlaen o bryd i’w gilydd.
“Ond mae’n rhaid i chi fod yn weddol lwyddiannus yn eich gyrfa i allu chwarae theatrau.”
Sioe radio
Mae Tomos wedi bod yn cyflwyno rhaglen ar Radio Cymru bob nos Sul ers ychydig wythnosau, gan ddod â’r gorau o jazz i’n tonfeddi cenedlaethol.
“Dw i’n mwynhau gwneud hynny’n fawr,” meddai.
“Gobeithio bod hynny’n helpu i godi proffil jazz yn gyffredinol, yn enwedig jazz o Gymru.
“Dw i’n llwyddo i chwarae dipyn o gerddorion jazz o Gymru ar y rhaglen yna.
“Mae’n grêt cael y cyfle i gael y slot ar Radio Cymru ac i fod yn ychydig bach o ‘jazz missionary’, a dangos ei fod yn gerddoriaeth hawdd i fwynhau pan dydy e ddim yn rhy astrus.”
Bydd y cyngerdd yn Theatr Clwyd yn dechrau am 7 o’r gloch heno (3 Medi), a bydd tocynnau yn £12 yr un ar y drws.