Mae cynnydd mewn galw am gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru wedi arwain at brinder sgiliau yn y diwydiant.

Dyna ddywed Cymru Greadigol, y corff dan nawdd Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y sector.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae 37 drama deledu neu ffilm wedi derbyn arian cyhoeddus drwy Gymru Greadigol sydd wedi helpu’r sector.

Yn ôl y dirprwy gyfarwyddwr, Gerwyn Evans, mae angen mwy o staff i helpu gyda chynyrchiadau, ac mae angen i bobol ifanc a phobol yng Nghymru glywed y neges bod y sector yn tyfu a bod yna nifer o gyfleoedd.

Yn draddodiadol, mae yna fwy o fyfyrwyr yn graddio nag sydd o swyddi, meddai un Uwch-Ddarlithydd Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Dr Dyfrig Jones wrth golwg360 fod yna “nifer go-lew” o fyfyrwyr yn mynd drwy’r adran, ac nad ydyn nhw wedi sylwi ar brinder yn ddiweddar.

“Yn amlwg, mae gennym ni nifer go-lew o fyfyrwyr yn mynd drwy’r adran bob blwyddyn. Nid bob un o’r rheiny sydd efo diddordeb yn yr ochr gynhyrchu, ond mae yna nifer go-lew ohonyn nhw,” meddai.

“Rydyn ni’n ffeindio bod rhai sy’n graddio yn ffeindio gwaith, ond hefyd yn amlwg, yn hanesyddol, mae yna fwy o fyfyrwyr yn graddio na sydd yna wedi bod o waith yn lleol yn aml iawn.

“Mae o’n newyddion da i ni bod yna fwy o alw, ond dydi o ddim wedi bod yn rhywbeth sydd wedi’n taro ni.

“Dydyn ni ddim wedi sylwi arno’n bersonol, ond efallai ei fod o’n rhywbeth sydd fwy penodol i Gaerdydd.”

Yn ddiweddar, mae rhai o sêr Hollywood wedi bod yn ffilmio yng Nghymru, gan gynnwys Forest Whitaker a Tom Hardy sydd wedi bod yn ffilmio ar gyfer drama drosedd ar gyfer Netflix.

Mae’r BBC wedi bod yn ffilmio His Dark Materials yng Nghymru hefyd, ac mae drama ffug-wyddonol Disney, War of Word, wedi’i ffilmio yng Nghasnewydd.

“Cyfrwng yn ei gyfanrwydd”

Gan fod y diwydiant ffilm a theledu yn newid mor aml, mae prifysgolion yn tueddu i ddysgu cyfuniad o sgiliau ymarferol am egwyddorion craidd y diwydiant, meddai Dr Dyfrig Jones.

“Y ffordd rydyn ni’n addysgu yn y Brifysgol, a fyswn i’n tybio bod pob prifysgol yr un fath, ydi [drwy] gyfuniad o ddysgu sgiliau ymarferol a dysgu egwyddorion craidd o ran pob dim… dadansoddi ffilm, sut mae’r diwydiant yn gweithio, sut mae rhywun yn mynd ati i greu ffilmiau.

“Dw i’n meddwl yn sylfaenol mai dyna ydi’r model sydd wedi bodoli ers degawdau, ers pan mae dysgu yn y maes wedi bodoli ar lefel addysg uwch.

“A dw i’n tybio mai dyna fydden ni’n dal i’w weld yn y dyfodol.”

Yn hytrach na dysgu sgiliau manwl, penodol yn unig, nod yr adran yw arfogi myfyrwyr ar fel eu bod nhw’n barod i weithio yn y diwydiant am ddegawdau.

“Pan rydyn ni’n dysgu myfyrwyr, dw i’n meddwl mai’r prif beth rydyn ni’n trio’u dysgu nhw ydi ‘Mae’r diwydiant yn newid, mae technoleg yn newid, ond mae yna bethau sylfaenol sydd wedi aros yr un fath ers degawdau’,” meddai Dr Dyfrig Jones wrth ystyried a oes yna le i ganolbwyntio ar elfennau mwy arbenigol.

“Rydyn ni’n edrych ar sut mae ffilm yn cyfathrebu efo’i chynulleidfa, sut mae gosod siot, sut mae torri un siot i siot arall wrth olygu ac yn y blaen,” eglurodd.

“Mae’r rheiny, i raddau, yn bethau oesol. Wedyn rydyn ni’n teimlo ei fod o’n llawer iawn mwy defnyddiol rhoi addysg i fyfyrwyr sydd yn mynd i arfogi nhw ar gyfer deg, ugain, trideg mlynedd yn y diwydiant nag ein bod ni’n canolbwyntio ar ryw sgil arbenigol ac ein bod ni’n ffeindio ychydig o flynyddoedd lawr y lôn bod y sgil yna ddim yn un sy’n ddefnyddiol.

“Rhan o addysg prifysgol ydi eu bod ni’n rhoi addysg gron, gyfan iddyn nhw, ac mae hynny’n cynnwys nid yn unig sgiliau manwl penodol, ond meddwl am ffilm fel cyfrwng yn ei gyfanrwydd.”