Bydd rhaglen ddogfen yn adrodd hanes Jimmy Murphy, cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru a Manchester United, yn cael ei ddarlledu ar S4C am naw o’r gloch nos Sul (5 Medi).

Jimmy Murphy oedd yn ganolog i ddarganfod a meithrin criw talentog o chwaraewyr Manchester United a oedd yn cael eu galw yn ‘Busby Babes’, ac roedd hefyd wrth y llyw pan aeth Cymru i rowndiau cynderfynol Cwpan y Byd 1958.

Mi ddaru ei ddyletswyddau rhyngwladol arbed ei fywyd, gan y byddai o wedi bod ar yr awyren gyda charfan Manchester United adeg trychineb Munich fel arall.

Geraint Iwan sy’n cyflwyno’r rhaglen ac fel cefnogwr Manchester United, mae’n dweud ei fod yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r cynhyrchiad.

“Dw i’n gwybod lot am Jimmy Murphy be bynnag achos mod i wedi tyfu fyny efo’i storiâu o drwy Man United fwy na’m byd,” meddai wrth golwg360.

“Yn Man United, ma Jimmy yn absolute arwr, mae pawb yn gwybod pwy ydi o achos fo wnaeth gymryd drosodd Man United ar ôl damwain Munich tra’r oedd Matt Busby yn yr ysbyty.

“Fo nath gadw’r clwb i fynd… ac maen nhw newydd gyhoeddi y bydd o’n cael statue y tu allan i Old Trafford, dyna faint mae ffans Man United yn ei garu fo.”

Geraint Iwan y tu allan i Old Trafford

Dysgu am hanes pêl-droed Cymru

“Ond beth wnes i ddysgu fwy na’m byd wrth wneud y rhaglen oedd hanes pêl-droed Cymru,” meddai wedyn.

“Achos 1958 rydan ni gyd yn gwybod bod Cymru wedi cyrraedd yna (Cwpan y Byd) a sut gafodd Cymru eu cnocio allan… mae o’n beth eithaf trist i’w ddweud ond os wyt ti isio gwerthu stori am Gymru fel arfer ti’n defnyddio Pelé.

“Mae pawb yn gwybod am Pelé yn cnocio ni allan, ond mae yna lot o wybodaeth a straeon hollol boncyrs am sut a pham ddaru ni ddim qualifio yn wreiddiol a sut fuodd yn rhaid i ni chwarae play-off yn erbyn Israel.

“Do’n i heb glywed hanner y pethau yma o’r blaen.

“Felly edrych mewn i faint o lanast oedd yr FAW adeg hynny a pha mor amhroffesiynol oedd bob dim, a bod Jimmy yng nghanol bob dim wedi gallu pullio fo off, dyna oedd fwyaf diddorol i fi.”

Teulu Jimmy

Dywed Geraint Iwan mai uchafbwynt y broses ffilmio iddo ef oedd cyfarfod teulu Jimmy Murphy ym Manceinion.

“Mae ei deulu fo’n ofnadwy o ddiddorol, roedd ei fab o’n dweud ei fod o’n adnabod Jimmy Murphy fel mae pawb arall yn adnabod Jimmy Murphy,” meddai.

“Doedd Jimmy byth o gwmpas oherwydd ei fod o mor dedicated i bêl-droed, Man United oedd ei fywyd o i bob pwrpas.

“Felly roedd y mab yn dweud, a doedd o’m yn flin am y peth o gwbl, fod o heb wir dod i adnabod ei dad o dan ar ôl iddo fo ymddeol.

“A doedd y ŵyr efo bron dim syniad beth oedd Jimmy wedi ei wneud, achos roedd Jimmy yn foi mor shei doedd o byth yn adrodd straeon ei hun.

“Felly roedd o jyst yn adnabod o fel taid oedd yn licio siarad am bêl-droed

“Ac wedyn yn ei gynebrwng o, roedd gen ti bobol fatha Bobby Charlton, Denis Law, George Best a rhein i gyd yn troi i fyny.

“Ac roedd o jyst yna’n meddwl ‘sut uffar mae rhain i gyd yn adnabod Taid?’.

“Dim ond wedyn ddaru o edrych i mewn i’r peth a ffeindio allan, achos doedd Jimmy erioed yn adrodd ei straeon.

“Beth sy’n ddiddorol hefyd ydi bod y teulu i gyd yn cefnogi Cymru.

“Ym Manceinion maen nhw’n byw, ond Cymru maen nhw’n dilyn yn hytrach na Lloegr oherwydd bod Jimmy yn arfer bod yn rheolwr ar Gymru.”

Geraint Iwan gyda mab Jimmy Murphy