Mae trefnwyr Gŵyl Daniel Owen yn dweud y bydd yna gymysgedd o ddigwyddiadau byw a rhithwir eleni.
Mae’r ŵyl flynyddol yn cynnwys wythnos o weithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â threftadaeth, llenyddiaeth a chelf yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint a’r cyffiniau.
Caiff yr ŵyl ddwyieithog ei chynnal adeg dyddiad geni a marwolaeth yr awdur Daniel Owen yn y dref, a hynny tua diwedd mis Hydref.
Cafodd ei eni yn 1836, a fo oedd un o nofelwyr Cymraeg mwyaf blaenllaw’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg.
Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener (Hydref 15) a dydd Gwener (Hydref 22).
Un o’r uchafbwyntiau fydd darlith goffa gan yr Athro Jerry Hunter ar y thema ‘Hiwmor Daniel Owen’.
Y byw a’r rhithwyr
“Er na allwn fod yn sicr am bopeth, gallwn fod yn sicr y bydd Gŵyl Daniel Owen yn ôl eto eleni,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.
“Yn yr un modd ag wythnos lwyddiannus y llynedd, gyda llaw, yr unig ŵyl a gynhaliwyd yn Yr Wyddgrug yn 2020, bydd yn gymysgedd o ddigwyddiadau byw a rhithwir.
“Mae’r grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr yn brysur yn trefnu rhaglen sy’n llawn diddordeb a mwynhad i bawb.
“Bydd yn dathlu’r awdur enwog y mae’r ŵyl wedi’i henwi ar ei ôl, a threftadaeth, iaith a diwylliant yr ardal.
“Bydd yn ddathliad o fywyd diwylliannol, llenyddol ac artistig unigryw’r ardal ddoe a heddiw.
“Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni. A bydd dawnsio ar y Sgwâr eto!”