Mae darlun newydd ‘Bygythiad’ gan artist o Gymro yn dangos map a Jac yr Undeb gyda’i ddwylo yn gafael am Gymru
Yn ôl yr artist Iwan Bala, mae neges y darn yn “eithaf amlwg,” a’i “bryder mawr yw bod llywodraeth San Steffan yn ceisio datgymalu Datganoli.”
Meddai’r artist – a enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 – wrth golwg360: “Mae Jac yr Undeb yn cymryd drosodd yng Nghymru, a’r syniad yn y pendraw, pe bai’r Alban yn cael annibyniaeth, a Chymru’n gwrthod hynny, yw y byddwn ni’n dod yn rhan o Loegr.
“Ryw fath o West England fyddwn ni. ‘For Wales See England’ oedd y dywediad ers talwm.
“Felly mae meddylfryd y gwleidyddion yma yn Llundain – y Toriaid, y Brexitiwyr.
“Mae hynny’n eithaf amlwg, dw i’n meddwl, yn be dw i’n ddweud yn y llun.
“Mae o’n eithaf in-your-face math o beth, dydi?”
Mae’n teimlo ei bod hi’n “ddyletswydd ar artistiaid i drafod y sefyllfa rydym ni’n byw ynddi.”
“I lot o bobol dydi o ddim yn amlwg, ond mae’r llun yn dangos pa mor amlwg ydi’r holl beth wrth ddefnyddio Jac yr Undeb,” meddai.
“Dw i wedi bod yn defnyddio mapiau o Gymru am wahanol resymau gyda gwahanol negeseuon ers degawdau, ond, ar ôl Brexit fe wnes i ddechrau gwneud lot mwy o bethau gwleidyddol am sefyllfa Cymru yn y gyfundrefn newydd.
“Mae llywodraeth San Steffan rŵan, o dan Johnson ac efo pobol fel Rees-Mogg, yn eithafol yn y ffordd y maen nhw eisiau canoli’r llywodraeth yn Llundain.”
“Y pryder mawr yw bod llywodraeth San Steffan yn ceisio datgymalu Datganoli”
Gwrthsefyll
“Maen nhw’n gwneud hynny drwy lot o ffyrdd dirgel, a dan-din. Mae Mark Drakeford yn gwrthsefyll hynny yn dda iawn chwarae teg, ac mae Adam Price yn deall be sy’n mynd ymlaen.”
Er bod Bil y Farchnad Fewnol bellach wedi’i phasio yn San Steffan, fe wnaeth nifer o weinidogion leisio pryderon ynghylch y ddeddf, a’r ffaith ei bod hi’n ymosod ar ddatganoli.
Bythefnos yn ôl, fe wnaeth gweinidogion o Gymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddiystyru’r Llywodraethau Datganoledig.
“Ro’n i’n defnyddio Jac yr Undeb fel symbol o’r Prydeinieddio sy’n mynd yn ei flaen, yr Anglo-Brexitisation yma fel dw i’n ei alw fo,” meddai am y darlun sydd wedi’i wneud ag inc, golosg, pastel, ac acrylic ar bapur Khadi, ac yn mesur 30x22cm.
Mae canllawiau newydd yn golygu bydd baner Jac yr Undeb yn chwifio uwch ben adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban drwy’r amser, mewn ymgais i uno’r genedl.
Y map y newid
“Peth arall nad ydy pobol yn sylwi arno gymaint ydy’r ffordd maen nhw’n trio creu rhyw fath o business areas yng ngogledd ddwyrain Cymru a Glannau Merswy, ac yn ne ddwyrain Cymru – Caerdydd a Chasnewydd – a Bryste.
“Mae hyn yn dod â nhw allan o Gymru i raddau, maen nhw fel tasa nhw’n tynnu tir i ffwrdd oddi wrthym ni drwy ei roi o ynghlwm ag adrannau o Loegr, fel Lerpwl a Bryste.
“Ac wrth gwrs, rheiny fydd y partneriaid cryfaf wastad,” pwysleisiodd yr artist.
“Yn ddaearyddol, mae’r map yn newid oherwydd pethau fel hyn.”
‘Stop speaking that foreign language’
“Mae Jacob Rees-Mogg wedi galw yr iaith Gymraeg yn ‘foreign language‘, felly rhoddais gyfeiriad at hynny,” eglurodd yr artist, gan gyfeirio at y pen, a’r geiriau ‘Stop speaking that foreign language’, sydd i’w gweld yn y darlun.
“Mae’r Gymraeg yn symbol iddyn nhw o’n gwahaniaeth ni, ond mae dweud ei bod hi’n ‘foreign’ yr un fath ar hyn y gwnaeth yr Eingl-Sacsoniaid alw’r Brythoniaid pan gyrhaeddon nhw yma gyntaf.
“Dyna yw tarddiad yr enw ‘Wales’, ‘foreigners. Land of foreigners’.
“Mae’r un meddylfryd yn ymddangos rŵan, mae o dal yna mewn gwirionedd.
“Mae’n wych gweld bod annibyniaeth yn cael mwy o sylw a mwy o gefnogaeth, ond, mae yna lot o daeogrwydd ymysg y Cymry tuag at yr undeb sy’n anodd ei ddeall,” ychwanegodd.
“Efallai bod rhaid mynd yn ôl i amser Harri Tudur i ffeindio allan pam fod Cymru a Lloegr wedi uniaethu gymaint, yn wahanol i’r sefyllfa efo’r Alban.
“Roedd yr Alban yn wlad benodedig ar ben ei hun, roedd y syniad yn bod yng Nghymru eu bod nhw’n rhan o rywbeth mwy.
“Fe wnaeth hynny barhau efo’r ymerodraeth, ac erbyn hyn mae’r holl resymau hynny wedi golygu bod Brexit wedi cael y bleidlais. Mae’n rhaid i ni sylwi fod hyn yn mynd yn ei flaen.
“Mae’r llun yn rhywbeth roeddwn i’n ei ffeindio’n ddifyr i’w wneud, dwi wedi darllen lot o gwmpas y testun. Dw i wedi darllen Englishness gan Richard Wyn Jones, ac mae hwnnw’n agoriad llygad i’r ffordd mae Saeson yn meddwl.
“Pethau fel yna sy’n fy annog i wneud y gwaith yma.”
Dyletswydd
“Dw i’n teimlo ei bod hi’n ddyletswydd ar artist i drafod y sefyllfa rydym ni’n byw ynddi, ddim just gwneud lluniau del i’w rhoi ar y wal.
“Dw i’n gweld fy rôl i fel artist yn debyg iawn i rôl bardd, ein bod ni’n trafod pethau gwleidyddol a dwys, a lot o bethau eraill. A bod yna waith i wneud hynny mewn celf weledol.
“Dydw i ddim yn rhywun sy’n gwneud tirluniau hyfryd yn y bôn, er dw i wedi bod yn gwneud lot o flodau yn ddiweddar!”
Mae Iwan Bala ar ganol sefydlu stiwdio yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin, ac mae’n dweud nad yw ei waith wedi “newid gymaint â hynny, ers symud, mae’n debyg”.
“Ond mae newid safle yn newid dy feddwl di am bethau weithiau, mewn ffyrdd dwyt ti ddim cweit yn sylwi ar y pryd.
“Mae’n eithaf Cymreig yng Nghefneithin, ac yn wahanol i fyw yng Nghaerdydd neu Rydychen. Mae hynny, hefyd, yn newid y ffordd yr ydw i’n gweithio, mae’n debyg.”
Ar hyn o bryd, mae Iwan Bala yn trafod creu nifer cyfyngiedig o brintiau or llun, a bydden nhw’n yn gwerthu am £150.00. Gall pobol gysylltu ag e drwy ei dudalen Facebook.