Bydd Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu cloi yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe o heddiw hyd at dridiau er mwyn ethol esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu.

Fe ddaeth y swydd yn wag wedi i Archesgob Cymru, John Davies, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, ymddeol ym mis Mai.

John Davies. Llun: Yr Eglwys yng Nghymru

Yr esgob newydd fydd degfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu.

Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i ddod i benderfyniad.

Pan fydd enw wedi’i ethol bydd yr Uwch Esgob yn datgloi ac yn agor drws gorllewinol yr eglwys a chyhoeddi enw y darpar esgob yn ffurfiol.

Mae’r Coleg Etholiadol yn cynnwys 47 o bobl sy’n cynrychioli pob un o chwech esgobaeth Cymru – cynrychiolir yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a’r pump esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â’r pump esgob arall.

 

 

Bydd y trafodaethau yn gyfrinachol gyda’r coleg yn gyntaf yn enwebu ymgeiswyr ac yna yn eu hystyried cyn pleidleisio’n ddirgel a gall fod nifer o gylchoedd enwebu, trafod a phleidleisio gan bod yn rhaid i ymgeisydd dderbyn dau draean y pleidleisiau.

Os yw’r Coleg Etholiadol yn methu ethol bydd y penderfyniad yn cael ei drosglwyddo i’r Fainc Esgobion.

Pan fydd yr esgob wedi’i ethol bydd ganddo fe neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn neu wrthod y swydd.

Os yw’r esgob yn derbyn y swydd caiff yr etholiad ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd a gynhelir yn fuan.

Wedi i Esgob Abertawe ac Aberhonddu gael ei ethol bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer ethol Archesgob Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn.