Mae lori wedi taro i mewn i bont drenau ym Machynlleth gan achosi trafferthion i’r rhai sy’n teithio.

Roedd un a welodd y digwyddiad yn honni bod lori tipio (tipper lorry), sy’n eiddo i Richard Yorke Ltd, wedi gyrru i mewn i’r bont gyda’i chefn i fyny, a’i bod hi wedi methu â’i chlirio.

Doedd neb, yn cynnwys gyrrwr y lori, wedi eu hanafu.

Fe wnaeth peirianwyr o gwmni Network Rail asesu’r bont i sicrhau nad oedd difrod difrifol o’r digwyddiad, ond erbyn 16:00 ddydd Mercher, 1 Medi, roedd gwasanaethau trên yn rhedeg unwaith eto.

Yn dilyn y digwyddiad, roedd y brif ffordd sy’n rhedeg drwy’r dref wedi cau i glirio olew a rwbel o’r bont, ac roedd trenau i ac o Fachynlleth wedi eu gohirio.

Cafodd y ffordd honno ei hailagor am 13:18 yr un diwrnod.

Mae’n debyg bod y ffordd gefn B4404 rhwng Pont Felin-y-ffridd a Glantwymyn ar gau am resymau gwahanol i gerbydau trwm.

Fe wnaeth y ddamwain greu tagfeydd ar yr A487.

Buodd rhaid i rai gwasanaethau bysus orfod teithio i’r A470 a drwy Ddinas Mawddwy.

Oedi

Roedd Traffig Cymru wedi dweud bod yr A487 ar gau i’r ddau gyfeiriad o Ffordd Mynydd Griffiths i orsaf betrol Texaco, gydag “un lori yn gysylltiedig.”

“Rydyn ni ‘n disgwyl i’r ffordd hon fod ar gau am gryn amser, felly cynlluniwch ymlaen llaw, a byddwn yn diweddaru cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd datganiad ar dudalen Twitter Trafnidiaeth Cymru “bod cerbyd wedi taro a phont rhwng Machynlleth a Chyffordd Dyfi” a bod y bont ar gau.

“Mae’n bosib fydd y gwasanaethau yma yn cael eu canslo neu ei oedi.

“Disgwylir tarfu tan 11:00 yb ar 1 Medi.”