Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod galwadau gan wleidyddion ar draws y Deyrnas Unedig i atal y toriadau i daliadau credyd cynhwysol.
Bydd y cynllun ad-dalu o £20 yr wythnos a gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig yn cael ei ddiddymu’n raddol o ddiwedd mis Medi.
Ond mae gwleidyddion o bob plaid yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’r taliad.
Mewn llythyr, dywedodd cadeiryddion y pwyllgorau lles ym mhedair senedd y Deyrnas Unedig y dylid gwneud y cynnydd yn barhaol.
‘Nôl i’r gwaith’
Ond dywed Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, ei bod am ganolbwyntio ar gefnogi pobol yn ôl i’r gwaith.
“Nawr mae’r economi wedi ailagor, mae’n iawn i’r llywodraeth ganolbwyntio ar gefnogi pobl yn ôl i’r gwaith a chefnogi’r rhai sydd eisoes wedi’u cyflogi i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd,” meddai.
“Ein huchelgais yw cefnogi dwy filiwn o bobl i symud i mewn i waith a symud ymlaen drwy ein Cynllun Cynhwysfawr gwerth £33bn ar gyfer Swyddi.”
Cafodd y llythyr yn galw am wneud y taliad yn barhaol ei lofnodi gan gadeiryddion pwyllgorau San Steffan, Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Cafodd ei lofnodi gan Stephen Timms o’r Blaid Lafur yn San Steffan, Neil Gray o’r SNP ar ran Holyrood, Paula Bradley o’r DUP ar gyfer Stormont a Jenny Rathbone o’r Blaid Lafur yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae’r tair llywodraeth ddatganoledig hefyd wedi beirniadu’r toriad.
‘£6bn ychwanegol y flwyddyn’
Byddai parhau â’r cynllun yn costio tua £6bn y flwyddyn ac mae’r llywodraeth yn dweud bod yn rhaid rheoli gwariant ar ôl y gwario mawr digynsail a wnaed yn ystod y pandemig.
Dywedodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y dylid ymestyn y cynllun gan mai dyna’r peth iawn i’w wneud yn “gymdeithasol” ac yn “foesol”.
Ychwanegodd mai dod â’r peth i ben yr hydref hwn fyddai’r “cam anghywir yn economaidd” gyda’r taliadau’n cael eu hailgylchu yn ôl i fusnesau lleol.
Mae mwy na 5.5m o gartrefi ledled y Deyrnas Unedig yn hawlio taliadau credyd cynhwysol ac mae tua 39% o bobol sy’n hawlio’r taliad mewn cyflogaeth.
Ond fe allai Boris Johnson wynebu gwrthryfel ar y meinciau cefn, gyda nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ymhlith y rhai sy’n pryderu am effaith cael gwared ar y codiad.
Mae disgwyl i’r pwysau gynyddu ar y prif weinidog Mark Drakeford dros yr wythnosau nesaf gyda Senedd San Steffan yn dychwelyd wedi gwyliau’r haf.
Credyd Cynhwysol: galw am wneud y taliad ychwanegol o £20 yn barhaol