Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â “gorfodi” porthladdoedd rhydd yng Nghymru na’r Alban.
Yn hytrach, maen nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “weithredu’n briodol ac yn deg”.
Mae’r gymdeithas yn cynrychioli buddiannau 86% o’r holl weithwyr sydd ym maes traffig porthladdoedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan, y llywodraethau datganoledig yn ogystal â chyrff cenedlaethol a rhyngwladol eraill.
‘Trafodaethau anghynhyrchiol’
“Mae’r diwydiant yn deall bod trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a gwahanol weinyddiaethau cenedlaethol y DU wedi bod yn anghynhyrchiol llawn anghytuno ac oedi – mae hynny yn y pen draw wedi rhoi porthladdoedd a busnesau mewn sefyllfa niweidiol,” meddai llefarydd ar ran y gymdeithas.
“Mae porthladdoedd wedi treulio cryn amser ac arian cyn gwneud cais [i fod yn borthladd rhydd].
“Mae’n rhaid i lywodraethau nawr tawelu pryderon a rhoi sicrwydd i borthladdoedd gan fod yn ofalus nad yw’r porthladdoedd yn cael eu llusgo i mewn i’r tensiynau gwleidyddol.
“Bu dyfalu hefyd am fygythiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i orfodi ’model rhad ac am ddim’ y Deyrnas Unedig ar y llywodraethau datganoledig.
“Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei groesawu gan y diwydiant.
Yn dilyn Brexit, mae’r drafodaeth am borthladdoedd rhydd wedi corddi’r dyfroedd gyda rhai’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o danseilio datganoli.
Mae gweinidogion Cymru a’r Alban wedi dweud y byddan nhw’n herio’n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu ar faterion datganoledig.
Maen nhw hefyd yn galw am eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran tegwch ariannol.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, ym mis Gorffennaf eu bod wedi “ceisio ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyson” ond fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn pwyso arnyn nhw “i ailgyfeirio eu hadnoddau i gyflawni blaenoriaeth polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.
‘Doed a ddelo’
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, fis Mai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cynllun p’un a oedd Llywodraeth Cymru yn cydsynio ai peidio.
Dywedodd ei fod yn “destun rhywfaint o rwystredigaeth nad ydym eto wedi’i gael dros y llinell”.
“Nawr, hoffem weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan fod rhwystrau’n parhau ar hyn o bryd ond gallwn – ac os oes angen, byddwn yn mynd ymlaen i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto,” meddai.
Ychwanegodd mai’r “unig rwystr sy’n sefyll rhyngom ni i gyflawni ein haddewid maniffesto yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd”.
Porthladdoedd Rhydd?
Dydy nwyddau tramor sy’n cyrraedd porthladdoedd a meysydd awyr sydd â statws ‘porthladd rhydd’ ddim yn cael eu heffeithio gan dariffau.
Dydy’r dreth honno ddim ond yn daladwy os yw’r nwyddau’n gadael y porthladd rhydd ac yn cael eu symud i rywle arall yn y Deyrnas Unedig.
Er i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod yn parhau’n ymrwymedig i ddatrys y mater gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Simon Hart eisoes wedi bygwth gosod cyfle am ddim ar Gymru “doed a delo”.