Bydd pedwar ffrind yn rhedeg saith marathon mewn saith niwrnod yn Sir Benfro gan anelu at gasglu £40,000 – ac yn wynebu’r her o godi i lefel uwch nag Everest.

Fe fydd Rufus McGrath, Geordie Wainwright, Jamie Prowse a Sam Lebus, sydd i gyd yn eu hugeiniau cynnar, yn codi arian i’r elusen iechyd meddwl CALM.

Mae’r elusen (Campaign Against Living Miserably) yn arwain ymgyrch i atal hunanladdiadau, yn enwedig ymysg dynion ifanc, a hyd yn hyn mae’r criw wedi casglu bron i £30,500.

Bydd y pedwar, sy’n ffrindiau ers iddyn nhw fod yn blant, yn rhedeg 184 milltir ar hyd llwybr yr arfordir, gan ddechrau yn Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro a gorffen yn Amroth yn y de.

Byddan nhw’n rhedeg y daith gyda’i gilydd, ac mae gan y daith gynnydd uchder o 35,000 troedfedd – sy’n uwch nag Everest.

‘Ewyllys da yn lleol’

“Yn yr adegau rhyfedd hyn, dw i’n gwybod fod pobol yn gallu mynd am dro neu reidio beic neu wneud ymarfer corff i glirio’u pen, ond dyw hynny ond yn ateb byrdymor,” meddai Rufus McGrath, a feddyliodd am yr her.

“Gall CALM weld pob unigolyn o safbwynt niwtral, yn bwyllog a diduedd, ac mae’r ffaith fod CALM am ddim yn hynod o bwysig i fynd i’r afael â’r mater cymdeithasol hwn.

“Rydyn ni’n dewis rhedeg yng Nghymru ac ar hyd arfordir Sir Benfro oherwydd ei fod mor brydferth: y môr, y clogwyni, y tir amaethyddol o’i amgylch, a’r llwybrau arfordir gwych.

“Mae’r pedwar ohonom ni wedi teimlo cymaint o ewyllys da yn lleol, er ei fod e’n syniad brawychus, rydyn ni mor lwcus ein bod ni’n gwneud yr her yma yng Nghymru.”

‘Gweithio ar y cyd’

“Yn aml mae rhywun yn rhedeg ar ei ben ei hun, felly mae’n wych teimlo ymdeimlad o fod gyda’n gilydd a gweithio ar y cyd tuag at un nod,” meddai Geordie Wainwright.

“Mae gwneud yr her hon wedi fy helpu’n barod i fagu agwedd wahanol tuag at iechyd meddwl.

“Dw i nawr yn gwneud ymdrech ymwybodol i ofyn i fy ffrindiau sut maen nhw’n teimlo fel fy mod i’n gallu bod yno iddyn nhw.”

‘Prawf meddyliol a chorfforol’

Bydd yr her ei hun yn “andros o anodd yn feddyliol”, meddai Jamie Prowse, sy’n “cyd-fynd” â gwaith yr elusen CALM.

“Mae’n achos sy’n berthnasol i bob un ohonom ni, gan ein bod ni wedi mynd drwy frwydr bersonol ag iechyd meddwl neu’n adnabod anwyliaid sydd wedi bod drwyddo,” meddai.

“Bydd e’n brawf, nid yn unig i’n gwytnwch corfforol, ond hefyd yn brawf fel erioed o’r blaen i’n nerth meddyliol.”

‘Rhoi cryfder’

“Dw i’n gwneud yr her oherwydd mae’r pwyslais newydd ar salwch meddwl wedi fy ngwneud i’n fwy ymwybodol o ba mor broblematig y gall yr amgylchiadau byd-eang presennol fod i bobol ymhob man,” meddai Sam Lebus.

“Mae rhedeg wedi rhoi cryfder i mi. Mae e wedi cynnig rhywbeth i mi ganolbwyntio arno pan mae bywyd yn teimlo’n flêr, ac yn aml mae’n ddatrysiad i ddiwrnod caled.

“Dw i’n caru’r symudiad â’i rhythm, a’r pŵer a’r rheolaeth y mae rhywun yn ei deimlo pan rydych chi’n symud eich corff.”