Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud “tro pedol” ar beiriannau diheintio osôn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a gweithdai wrth i ddisgyblion a myfyrwyr baratoi i ddychwelyd ar gyfer y tymor academaidd newydd.

Bydd cyllid ar gael ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio osôn a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.

‘Tro pedol eithaf trawiadol’

“Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydden nhw’n darparu 1,800 o beiriannau diheintio osôn i ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru ar gost o £3m,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.

“Erbyn hyn, mae’n ymddangos eu bod wedi perfformio tro pedol eithaf trawiadol yn dilyn pryderon difrifol gan weithwyr meddygol proffesiynol a gwyddonwyr am ddiogelwch y peiriannau hyn – gan honni eu bod bellach ond yn “ystyried” eu defnydd ac nad ydynt hyd yn oed wedi dechrau’r broses gaffael.

“Mae peiriannau diheintio osôn yn glanhau’r aer pan nad oes neb yn yr ystafell ac yn beryglus i’w defnyddio pan fydd pobl yn bresennol.

“Dyna pam mae angen gofyn cwestiynau difrifol am farn y Llywodraeth wrth benderfynu cyflwyno’r peiriannau penodol hyn i’n hysgolion, colegau a phrifysgolion – ychydig ddyddiau cyn i fyfyrwyr ddechrau dychwelyd ar ôl gwyliau’r haf.

“Pa sicrwydd y maent wedi’i roi bod y dechnoleg newydd sbon hon – nad yw wedi’i threialu’n llawn eto – yn ddiogel i’w defnyddio yn y lleoliadau hyn?”

‘Gwenwynig’

“Er fy mod yn croesawu’r tro pedol hwn gan weinidogion Llafur, rwy’n ei chael yn gwbl syfrdanol na wnaethant geisio cyngor gan wyddonwyr cyn gwneud cyhoeddiad,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae gwneud penderfyniad i gyflwyno’r peiriannau chwistrellu cemegol gwenwynig hyn, a allai gael effaith niweidiol iawn ar rostir ein pobl ifanc, heb siarad ag arbenigwyr, yn gam di-hid a dweud y gwir.

“Mae angen i weinidogion gyhoeddi’r cyngor gan arbenigwyr, ynghyd ag unrhyw asesiadau risg a gynhelir, i bawb eu gweld cyn symud ymlaen gyda’r prosiect dadleuol hwn.”

Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn technoleg i wella ansawdd aer

Bydd cyllid ar gael ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid