Mae arbenigwyr ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn cynghori Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, i gynnwys Mark Drakeford yn ei gabinet cysgodol yn San Steffan.

Daw’r galwadau hyn yn dilyn adroddiad ‘Addas i’r Dyfodol’ a gafodd ei gyhoeddi gan rwydwaith o 1,200 o bobol sy’n gweithredu dan yr enw ‘Llafur mewn Cyfathrebu’.

Maen nhw’n galw ar arweinydd y Blaid Lafur i gynnwys ffigurau adnabyddus o fewn y blaid o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r rhain hefyd yn cynnwys Andy Burnham, Maer Manceinion, a Sadiq Khan, Maer Llundain.

Mae’r adroddiad yn cynnwys rhagair gan y Cymro Neil Kinnock, cyn-arweinydd y Blaid Lafur.

Ailstrwythuro

“Dylai Llafur geisio ailstrwythuro cabinet yr wrthblaid a chyfathrebu drwy grŵp o aelodau i wella  ymwybyddiaeth y cabinet cysgodol Llafur ymhlith y cyhoedd,” meddai’r adroddiad.

“Byddai’r grŵp yn gweithredu fel ‘cabinet gwleidyddol’ i bob pwrpas a byddai ganddo gyfrifoldeb llwyr, fel llefarwyr ymroddedig Llafur, i fframio, datblygu a chyfleu neges Llafur i’r cyhoedd.”

“Er mwyn cyflawni hyn, dylai Cabinet Cysgodol Llafur, ac yn ddelfrydol ein Cabinet Gwleidyddol a argymhellir, gynnwys ffigurau mewn grym.

“Dylai Llafur hefyd geisio cadarnhau eu negeseuon drwy dynnu sylw at lwyddiannau y blaid sydd mewn grym ledled y Deyrnas Unedig – gan gynnwys yn y llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ar draws Lloegr gyda Meiri Llafur mewn dinasoedd mawr, yn ogystal â chynghorau sydd dan arweiniad Llafur.”

Cyfathrebu

Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar Lafur Cymru yn ehangach, wedi iddyn nhw ennill mwyafrif yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

“Roedd statws datganoledig Cymru yn rhoi cyfle i Lafur Cymru wyro oddi wrth ymateb San Steffan drwy gydol y pandemig,” meddai.

“Roedd hefyd yn rhoi’r lle iddyn nhw ddweud eu stori eu hunain. Canolbwyntiwyd y cyfathrebu ar Gymru ac ar wneud yr hyn sydd orau i Gymru.

“Mae Llafur Cymru yn enghraifft arall o ba mor fuddiol yw cyfathrebu syml”

Anwybyddu

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Fel arweinwyr y pleidiau, mae Mark a Keir yn siarad yn rheolaidd – ac mae eu timau mewn cysylltiad dyddiol. Maen nhw’n dod ymlaen yn dda iawn. Mae Mark wedi siarad â Chabinet yr Wrthblaid ac mae Keir wedi siarad â Chabinet Llafur Cymru.

“Wrth geisio bod o gymorth, mae awduron yr adroddiad hwn wedi anwybyddu’r ffaith fod Mark Drakeford yn eithaf prysur yn arwain llywodraeth yma yng Nghymru.

“Yn hytrach nag argymell bod arweinwyr datganoledig yn mynd i Gabinet yr Wrthblaid, dylent gefnogi gwaith Keir i gael tîm mainc flaen Llafur allan i wledydd a rhanbarthau’r DU.