Mae’r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn dweud y dylid cynnig trydydd dos o frechlyn Covid-19 i unigolion 12 oed neu hŷn yr oedd eu system imiwnedd dan fygythiad mawr ar adeg eu dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn, neu’r ddau.

Y rheswm am hyn yw na fydd rhai unigolion sy’n wynebu perygl difrifol oherwydd cyflyrau iechyd isorweddol neu driniaethau meddygol penodol yn cyrraedd imiwnedd llawn o ganlyniad i’r ddau frechlyn cyntaf o’r brechlyn COVID-19.

Mae cyngor y JCVI yn manylu ar y grwpiau a fydd yn gymwys a bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gweithio’n gyflym i nodi unigolion cymwys cyn y bydd eu byrddau iechyd yn cysylltu â nhw.

Croesawu’r cyhoeddiad

“Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar yr unigolion bregus hyn ac rwy’n croesawu’r cyngor hwn,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Bydd y penderfyniad ar amseriad y trydydd dos yn bwysig i rai cleifion, a bydd yn cael ei benderfynu gan eu clinigwyr arbenigol. Bydd eu hapwyntiad ar adeg briodol yn ystod eu cynllun triniaeth.

“Nid oes angen cysylltu â’ch bwrdd iechyd na’ch clinigwyr i wirio os ydych yn gymwys.

“Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith i nodi a chynllunio i gleifion gael eu brechu a bydd cyfathrebu gan Fyrddau Iechyd yn dilyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

“Y brechlyn COVID-19 yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y feirws.

“Anogir unrhyw un nad yw wedi cael eu brechlyn eto i fanteisio ar eu cynnig dos sylfaenol cyn inni symud i ddechrau’r ymgyrch atgyfnerthu.

“Os nad ydych wedi cael eich brechiad eto, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma.”