Mae Dominic Raab wedi hedfan i Qatar i gynnal trafodaethau am “brif flaenoriaeth” Llywodraeth Prydain, sef sicrhau bod trigolion Prydain yn dychwelyd oddi yno, a bod dinasyddion Affganistan yn cael gadael y wlad sydd dan reolaeth y Taliban.

Dechreuodd taith yr Ysgrifennydd Tramor oriau ar ôl iddo wynebu cwestiynau gan aelodau seneddol am yr ymdrechion i ddianc o faes awyr Kabul.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i’r prif weinidog Boris Johnson ymweld â milwyr yn ne-ddwyrain Lloegr oedd wedi helpu’r ymdrechion i ddianc o Kabul.

Bydd yr Ysgrifennydd Tramor yn cyfarfod ag Amir Qatar, Sheikh Tamim bin Hamad Al Thani, a’r dirprwy brif weinidog a’r gweinidog tramor Sheikh Mohammed bin Abdulrahman Al Thani yn ystod ei ymweliad.

Cyn mynd i’r maes awyr, siaradodd e â Gweinidog Tramor India, Dr Subrahmanyam Jaishankar, gan ddiolch iddo am helpu i sicrhau Penderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar Affganistan.

Pedair blaenoriaeth allweddol

Dywed y Swyddfa Dramor y bydd Dominic Raab yn trafod “pedair blaenoriaeth allweddol y Llywodraeth ar gyfer Affganistan”, sy’n cynnwys “atal Affganistan rhag dod yn hafan i frawychwyr, ymateb i’r trafferthion dyngarol, diogelu sefydlogrwydd rhanbarthol a dal y Taliban i gyfrif am hawliau dynol”.

Wrth i Dominic Raab ymweld â Doha, bydd Gweinidog y Swyddfa Dramor, yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon, yn teithio i Tajikistan i drafod taith ddiogel y rhai sy’n ffoi yno o Affganistan.

Wynebodd gwestiynau parhaus gan aelodau seneddol ynghylch sut y methodd y Deyrnas Unedig â rhagweld pa mor gyflym y byddai llywodraeth Affganistan yn syrthio i’r Taliban.

“Yr asesiad canolog yr oeddem yn gweithredu iddo, ac yn sicr fe’i cefnogwyd gan y JIC (Cyd-bwyllgor Gwybodaeth) a’r fyddin, yw mai’r mwyaf tebygol, y cynnig canolog, oedd, o ystyried y troad yn tynnu’n ôl erbyn diwedd mis Awst, y byddech yn gweld dirywiad cyson o’r pwynt hwnnw ac roedd yn annhebygol y byddai Kabul yn gostwng eleni,” meddai wrth ymateb.

Mae’n ymddangos bod dogfen y Swyddfa Dramor – neu’r brif gofrestr risg – a gafodd ei chyhoeddi ar Orffennaf 22, yn rhybuddio y gallai Affganistan ddisgyn i’r Taliban yn llawer cynt nag yr oedd y Deyrnas Unedig wedi’i ragweld o’r blaen.

Dywed y ddogfen, sydd wedi’i gweld gan y Guardian, fod “trafodaethau heddwch wedi’u gohirio ac mae cynlluniau yr Unol Daleithiau a Nato yn golygu bod y Taliban yn gwneud cynnydd cyflym”.

“Gallai hyn arwain at: gwymp dinasoedd, cwymp grymoedd diogelwch, Taliban yn dychwelyd i bŵer, dadleoli torfol ac angen dyngarol sylweddol,” meddai wedyn.

“Efallai y bydd angen i’r llysgenhadaeth gau os bydd diogelwch yn dirywio.”

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor ar y pryd ei bod yn “anghywir ac yn gamarweiniol” awgrymu bod y ddogfen “yn groes i’n hasesiadau manwl o’r sefyllfa yn Afghanistan neu ein sefyllfa gyhoeddus drwy gydol yr argyfwng”.

Boris ar wyliau?

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â chanolfan filwrol a chwrdd â milwyr sy’n ymwneud â gwacáu maes awyr Kabul.

Mae’n dychwelyd o daith pedwar diwrnod i Wlad y Gorllewin a ddechreuodd ddydd Sul (Awst 29).

Mae ei lefarydd swyddogol yn gwrthod ei ddisgrifio fel gwyliau, gan fynnu bod Boris Johnson yn “parhau i weithio” i ffwrdd o’r swyddfa.