Mae awdurdodau India wedi cyflwyno mesurau llym yn Kashmir yn dilyn marwolaeth yr arweinydd gwleidyddol 92 oed, Syed Ali Geelani, un o’r rhai fu’n brwydro tros uno â Phacistan.

Maen nhw wedi cyflwyno cyfyngiadau symud ac wedi dileu bron bob ffordd o gyfathrebu yn dilyn anghydfod.

Yn ôl ei fab Neelam, fe wnaeth yr awdurdodau fynd â chorff ei dad gan atal y teulu rhag ei gladdu lle’r oedd yn dymuno cael ei gladdu yn Srinagar, ac fe gafodd ei gladdu’n breifat ar safle arall heb fod ei deulu’n bresennol.

Mae heddlu a milwyr arfog yn cynnal patrolau yn Kashmir wrth i’w thrigolion aros yn eu cartrefi, ac mae sawl blocâd wedi’u codi ar draws ffyrdd a phontydd, yn ogystal â sawl lleoliad i wirio’r bobol sy’n teithio mewn trefi a phentrefi.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi torri llinellau ffôn a gwasanaethau symudol mewn ymgais i atal protestiadau torfol.

Kashmir – India neu Bacistan?

Roedd Syed Ali Geelani wedi bod yn flaenllaw ers blynyddoedd yn y frwydr i sicrhau bod gan Kashmir yr hawl i benderfynu ei dyfodol ei hun, ac roedd yn frwd tros uno â Phacistan gan arwain grŵp o wleidyddion a grwpiau crefyddol a gafodd ei sefydlu yn 1993.

Un o brif ddulliau’r grŵp oedd cynnal protestiadau ac amharu ar wasanaethau.

Roedd yn gwrthwynebu cynnal trafodaethau ag India, safbwynt a gafodd ei wfftio gan nifer o lywodraethau India ar hyd y blynyddoedd.

Roedd hefyd yn ymgyrchydd yn erbyn rheolaeth India o Kashmir.

Mae Pacistan wedi cynnal diwrnod o alaru yn dilyn ei farwolaeth, ac mae llywodraeth y wlad wedi beirniadu’r awdurdodau am y ffordd aethon nhw ati i’w gladdu, sydd wedi’i alw’n “farbaraidd” ac “annynol” gan yr heddlu.

Fe fu cryn frwydro tros Kashmir ers y 1980au, ond mae tensiynau’n waeth eto dros y blynyddoedd diwethaf.