Mae Llywodraeth Prydain wedi wfftio’r adroddiadau y gallai arfau niwclear Trident gael eu symud i Gymru pe bai’r Alban yn mynd yn wlad annibynnol.

Caiff yr arfau eu cadw ar arfordir orllewinol yr Alban ar hyn o bryd, ond roedd adroddiadau yn y Daily Express y gallen nhw symud i Aberdaugleddau pe bai’r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig rywbryd yn y dyfodol.

Bu’r Financial Times hefyd yn dyfynnu ffynhonnell sydd wedi dweud y gallen nhw gael eu symud i safleoedd y llynges yn yr Unol Daleithiau neu Ffrainc, neu fod posibilrwydd y gallen nhw aros yn yr Alban fel rhan o gytundeb dros dro i greu Tiriogaeth Brydeinig Dramor.

Ond mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwadu bod yna fwriad i symud yr arfau o gwbl.

‘Mandad clir’

Ar ôl i Lywodraeth yr SNP gael ei hethol fis Mai, fe wnaeth y prif weinidog Nicola Sturgeon addo cynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae’r SNP wedi dod i gytundeb â’r Blaid Werdd fel bod eu cyd-arweinwyr yn ymuno â’r llywodraeth, y tro cyntaf i’r Blaid Werdd fod yn rhan o lywodraeth yn un o wledydd y Deyrnas Unedig.

O ganlyniad i’r fargen, mae Nicola Sturgeon yn mynnu bod ganddi fandad clir i gynnal refferendwm annibyniaeth arall gan fod gan y ddwy blaid gyda’i gilydd 72 o seddi allan o 129, sy’n golygu bod y mwyafrif o blaid annibyniaeth.

Mae’r SNP yn galw ers tro am beidio ag adnewyddu arfau niwclear Trident.