Mae cael dau ddos o frechlyn Covid-19 bron yn haneru’r tebygolrwydd y bydd oedolion sydd â Covid-19 yn cael Covid hir, yn ôl gwyddonwyr.

Mae gwyddonwyr yn King’s College yn Llundain yn dweud bod pobol 73% yn llai tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty os ydyn nhw wedi cael dau ddos, a bod y tebygolrwydd o gael symptomau difrifol ar ôl dau ddos 31% yn llai.

Cafodd data o gofnodion symptomau, profion a statws brechu mwy na dau filiwn o bobol ei ddadansoddi fel rhan o’r astudiaeth rhwng Rhagfyr 8 y llynedd a Gorffennaf 4 eleni.

Fe wnaeth 6,030 o ddefnwyr yr ap Covid nodi eu bod nhw wedi cael prawf positif o leiaf 14 diwrnod ar ôl brechlyn cyntaf ond cyn eu hail, tra bod 2,370 wedi cofnodi prawf positif o leiaf saith niwrnod ar ôl eu hail frechlyn.

Roedd y symptomau mwyaf cyffredin wedi’u cofnodi’n llai aml gan bobol oedd wedi cael y ddau ddos, ac roedd pobol 50% yn llai tebygol o gael mwy nag un symptom yn ystod wythnos gynta’r salwch.

Roedd pobol dros 60 oed oedd wedi cael dau ddos yn fwy tebygol o beidio â chael unrhyw symptomau na’r rhai oedd heb eu brechu.

Mae canlyniadau’r astudiaeth wedi’u cyhoeddi yn y Lancet, ac mae’n dweud bod oedolion hŷn a mwy bregus ac mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn wynebu risg uwch o gael eu heintio, ond fod effeithiau’r feirws yn llai difrifol ymhlith y rhai sydd wedi’u brechu.

‘Mae brechlynnau’n newid yr afiechyd er gwell’

“Mae brechlynnau yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobol yn cael Covid hir yn sylweddol mewn dwy ffordd,” meddai’r Athro Tim Spector o King’s College yn Llundain a phrif wyddonydd yr astudiaeth.

“Yn gyntaf, drwy leihau’r perygl o unrhyw symptomau wyth i ddeg gwaith, ac yna drwy haneru’r tebygolrwydd y bydd unrhyw haint yn troi’n Covid hir, os yw’n digwydd.

“Waeth bynnag pa mor hir mae symptomau’n para, rydym yn gweld bod heintiau ar ôl dau frechlyn hefyd yn fwy mwyn o lawer, felly mae brechlynnau wir yn newid yr afiechyd er gwell.

“Rydym yn annog pobol i gael eu hail frechlyn cyn gynted ag y gallan nhw.”

Yn ôl gwyddonydd arall, Dr Claire Stevens, mae risg “sylweddol” o hyd i bobol oedrannus, pobol wan a difreintiedig, ac mae angen eu blaenoriaethu nhw ar gyfer ail a thrydydd dos.

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Mae’r ymchwil yma’n galonogol, gan awgrymu nad yw brechlynnau ddim ond yn atal marwolaethau ond y gallen nhw hefyd helpu rhai o’r symptomau mwyaf hir dymor,” meddai Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan.

“Rydym wedi buddsoddi £50m mewn ymchwil i ddeall yn well effeithiau hirdymor Covid ac mae tros 80 o wasanaethau asesu Covid hir wedi’u hagor ledled Lloegr fel rhan o estyniad gwerth £100m i ofal i’r sawl sy’n diodde’r effeithiau.

“Mae’n amlwg fod brechlynnau’n codi mur o amddifyniad yn erbyn y feirws ac mai dyma’r ffordd orau o warchod pobol rhag salwch difrifol.

“Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i ddod ymlaen ar gyfer eu dau ddos o frechlyn mor gyflym â phosib.”