Prin fod yr un nofel Gymraeg arall wedi dal dychymyg cenedlaethau o ddarllenwyr fel Un Nos Ola Leuad.
Wedi’i chyfieithu i nifer o ieithoedd, ei haddasu’n ffilm, a’i pherfformio ar lwyfannau ers cael ei chyhoeddi yn 1961, bellach mae bwriad troi’r nofel yn opera.
Dan nawdd cychwynnol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae cwmni Opra Cymru o Flaenau Ffestiniog wedi bod wrthi ers dechrau 2018. Mae’r sain ar gyfer y darn yn barod, a’r bwriad yw ei throi’n opera ar gyfer y teledu.