Annwyl Olygydd,

Diolch i chi am roi sylw dyledus i ddynodiad Ardal y Llechi fel Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco yn y cylchgrawn (Golwg 05/08/21) ond biti na roddwyd unrhyw sylw i’r corff sy’n gyfrifol am y dynodiad.

Mae gweithgareddau Unesco o arwyddocad arbennig i Gymru oherwydd:

  • Dyma’r unig gorff rhyngwladol sydd a gofal am ieithoedd, amrywiaeth ieithyddol, treftadaeth, a hyrwyddo addysg heddwch
  • Mae dau o’i brif gyfrifoldebau wedi eu datganoli’n llwyr i Gymru, sef addysg a diwylliant a’r ddau arall wedi eu rhannol ddatganoli, sef gwyddoniaeth a chyfathrebu
  • Mae gan Unesco o leiaf 16 o ddynodiadau amrywiol ar draws Cymru ar 25 safle gwahanol: nifer fawr i wlad fach. Yn wir dyma’r unig un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig sydd â phresenoldeb sylweddol ar lawr gwlad yma
  • Mewn cyfres o gynadleddau blynyddol ar addysg ryngwladol yn y 1930au ym Mhlas Gregynog y tyfodd y syniad o gael sefydliad addysg byd eang o’r fath; mae yna ddigon o dystiolaeth o hynny ar gael
  • Cymro, y Parch Gwilym Davies (sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru), oedd yn gyfrifol am ddrafft gweithredol cyntaf cyfansoddiad Unesco; mae ei gopi personol gyda’i newidiadau mewn llawysgrif ddestlus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Mae Cymro arall, Syr Ben Bowen Thomas, fel cyfarwyddwr a Chadeirydd Pwyllgor Gweithredol Unesco ym Mharis, wedi gwneud cyfraniad pwysig i sefydlogi’r corff yn nyddiau cynnar y Rhyfel Oer yn y 1950au.
  • Bu gan Gymru Bwyllgor Unesco am dros 60 mlynedd tan i’r Cadeirydd gael ei ddiswyddo’n gyfrinachol am fod yn rhy ‘Gatalaneg’, hynny yw, yn rhy llwyddiannus, ac i’r Pwyllgor gael ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru heb eglurhad, gwrthwynebiad na sylw gan y wasg.

Onid yw’r dynodiad diweddaraf yma’n gyfle i ni ailystyried beth all Unesco wneud ymhellach i Gymru ac yn wir beth all Gymru gyfrannu o’r newydd i Unesco?

Yn sicr, dylid ailsefydlu’r Pwyllgor Cymreig a dilyn galwad Adam Price i wneud cais am aelodaeth cyswllt o’r corff rhyngwladol ar sail cyfraniad Cymru i’w ddatblygiad cynnar. Neu beth am sefydlu ‘Tai’ Unesco tebyg i’r rhai llwyddiannus sydd yng Ngwlad y Basg a Catalunya?

Heb os dylai Llywodraeth Cyrmu greu peirianwaith dryloyw i ddangos sut mae’n cysylltu gydag Unesco o safbwynt ei chyfrifoldebau datganoledig.

Yn gywir,

Allan Wynne Jones 

Ynys Môn

Ardaloedd llechi Gwynedd i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd

Mae UNESCO wedi cadarnhau’r cais mewn cyfarfod heddiw, 28 Gorffennaf

“Rioed wedi gweithio’n chwaral, ond genna’i lechan yn y gwaed”

Jason Morgan

“Roeddwn i’n wên o glust i glust o glywed i UNESCO roi Statws Treftadaeth y Byd i ardaloedd chwarelyddol y Gogledd”