Dyma’r cwestiwn a lamodd o nunlle, wrth i radio’r car faglu o Radio 1 i sianel ‘oldies’ dros y penwythnos – ac wrth i mi ganfod fod seiniau honno lawer yn fwy cyfarwydd.

Milenydd? Milenwraig? Gyda’r darganfyddiad bod hits fy arddegau nawr yn glasuron retro, ces gyfle i ddadlapio creisis egsistensial ffresh wrth yrru trwy Landeilo yn yr haul.