Ddechrau’r wythnos roedd rhai o bapurau newydd mwya’ poblogaidd Prydain yn gwyntyllu’r syniad o symud arfau niwclear lawr o’r Alban i Gymru.
Y theori yw y byddai angen cartref newydd i Trident, pe bai’r Albanwyr yn dewis annibyniaeth i’w gwlad.
Trident – i’r rhai sydd heb fod yn talu sylw – yw’r enw ar y pedwar llong danfor sydd yn cludo taflegrau balistig niwclear.
Ar hyn o bryd mae’r sybs yn cael eu cadw ar wely’r afon Clud yng ngorllewin yr Alban.