Bydd byrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Phowys yn dechrau cynnig brechlyn atgyfnerthu Covid-19 heddiw (dydd Llun, Medi 20).

Byddan nhw’n dechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal a staff gofal iechyd.

Dechreuodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gynnig y brechlyn atgyfnerthu i’w staff yn y gogledd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ddyddiau ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyhoeddi’r cyngor.

Ddydd Sadwrn (Medi 18), dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyda’u rhaglen atgyfnerthu hefyd, gan ddechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal.

Derbyniodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, gyngor y JCVI i gynnig dos atgyfnerthu o’r brechlyn Covid-19 i bawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, a phobol sydd â chyflyrau iechyd – sef y bobol yn y grwpiau blaenoriaeth un i naw.

Bydd y JCVI yn ystyried brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer oedolion eraill yn y man.

Fe fydd plant 12 i 15 oed yn dechrau cael gwahoddiadau i dderbyn un dos o frechlyn Pfizer yr wythnos hon hefyd, ac mae disgwyl y bydd y rhaglen yn dechrau ar Hydref 4.

‘Ddim yn rhy hwyr’

Mae Eluned Morgan yn annog pawb sy’n gymwys i dderbyn y brechlyn atgyfnerthu.

“Mae rhaglen frechu Cymru wedi bod yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y byd i gyd ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd i ddarparu brechlyn atgyfnerthu’r hydref yn ddiogel ac yn effeithlon,” meddai.

“Byddwn i’n annog pawb sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu i fanteisio ar y cynnig pan fyddan nhw’n cael eu galw am apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd imiwnedd o’u dosau cynharach o’r brechlyn yn lleihau wrth i amser fynd heibio.

“Os nad ydych chi wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn eto, ’dyw hi ddim yn rhy hwyr. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cynnig eto i wneud hynny.”

Mae Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru, yn annog menywod beichiog yn enwedig i gymryd brechlyn Covid-19, gan fod mwy o fenywod beichiog nawr yn ddifrifol wael oherwydd y feirws.

Bydd pobol yn cael eu gwahodd am drydydd brechlyn, ac mae Llywodraeth Cymru’n annog pobol i beidio â chysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol na gwasanaethau iechyd eraill i ofyn am frechlyn atgyfnerthu.