Does “dim penderfyniad” wedi’i wneud i hollti cwmni ynni SSE, yn ôl penaethiaid.

Maen nhw wedi ymateb i’r pryderon dros y penwythnos fod y cwmni am hollti o ganlyniad i’r argyfwng yn y diwydiant ynni.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ym mis Tachwedd.

“Ni fu unrhyw benderfyniad i hollti’r SSE Group,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Yn dilyn ail-siapio’r grŵp yn ddiweddar, mae ffocws strategol clir SSE ar ynni adnewyddadwy a rhwydweithiau trydan sydd wedi’u rheoleiddio, wedi’u cefnogi gan fusnesau sydd wedi’u dewis yn ofalus.”

Cefndir

Fe wnaeth SSE werthu eu cangen cyflenwi ynni i Ovo Energy y llynedd.

Mae’r hollt posib wedi cael i groesawu gan Elliott Management, un o fuddsoddwyr gweithredol mwyaf dylanwadol y byd.

Yn ôl The Telegraph, mae Elliott wedi darbwyllo bwrdd rheoli SSE o fanteision hollti’r busnes ynni oddi wrth y rhan sy’n adeiladu tyrbinau gwynt newydd.

Ond dydy hi ddim yn glir o hyd a fydd SSE yn bwrw ymlaen â’r awgrym.

Byddai rhestru dwy fusnes ar wahân yn galluogi SSE i godi arian gan fuddsoddwyr i’w neilltuo ar gyfer datblygiadau, ac yn eu helpu i gyrraedd y nod o dreblu eu hallbwn ynni adnewyddadwy erbyn 2030.