Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru’n agor ei drysau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Llun, Medi 20).
Mae myfyrwyr yn astudio gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol, sy’n cael ei ddarparu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol.
Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd gynta’r cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r tair blynedd olaf ar Gampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.
Gall myfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy’r Gymraeg, ac mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o anifeiliaid – o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, fel pob rhaglen filfeddygol arall.
Bydd myfyrwyr yn elwa o’r buddsoddiad o £1m sydd wedi’i wario ar gyfleusterau dysgu newydd ar gampws Penglais yn Aberystwyth, gan gynnwys cyfleusterau anatomi ac astudio.
“Arwyddocaol a chyffrous”
Mae heddiw’n ddiwrnod “hynod arwyddocaol a chyffrous” yn hanes y brifysgol a Chymru, yn ôl yr Athro Darrell Abernerthy, Pennaeth yr Ysgol.
“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y llwyddiant hwn – mae ymdrechion a chefnogaeth nifer fawr o bobl a sefydliadau wedi arwain at y diwrnod arwyddocaol hwn,” meddai’r Athro Darrell Abernethy.
“Wedi cymaint o waith caled gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn paratoi ar gyfer dechrau’r cwrs, mae’n deimlad gwych i weld ein myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd.
“Byddan nhw’n elwa’n fawr o sgiliau’r tîm staff newydd a’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd hyn.”
‘Darn hollbwysig i’r jigso’
Mae’r Ysgol yn adeiladu ar dros gan mlynedd o addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid yn Aberystwyth, ac yn fwy diweddar, ar radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gafodd ei chyflwyno yn 2015.
“Mae hwn yn ddiwrnod o ddathlu a gobaith mawr yma yn Aberystwyth. Mae amaeth a’i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jigso, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”
“Bydd ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr, ac rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”
“Cyfle gwych”
Dywed yr Athro Stuart Reid, Prifathro’r Coleg Milfeddygol Brenhinol, eu bod nhw’n falch iawn o weld y fenter hon yn dwyn ffrwyth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at estyn croeso’r un mor gynnes iddyn nhw pan gyrhaeddan nhw yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol ymhen dwy flynedd ar gyfer ail ran ein gradd filfeddygol newydd a ddarperir ar y cyd,” meddai.
“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Brifysgol Aberystwyth, i’r proffesiwn milfeddygol, ac i iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru,” meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
“Mae’r clwstwr hwn – o addysg filfeddygol, ymchwil a rhagoriaeth – yn gyfle gwych i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt astudio mewn cyfleusterau sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn ac i ragori.”