Mae cais i droi Clwb Canol Dre yn bedair uned wyliau wedi dod i law Cyngor Gwynedd.
Mae’r cynlluniau, a gyflwynwyd gan Cosgrove Renovations Ltd, yn adlewyrchu cynlluniau ar wahân i drosi’r hen Glwb Ceidwadol cyfagos yn ddwy uned fanwerthu a chwe fflat gwyliau.
Cafodd Clwb Canol Dre ei roi ar y farchnad y llynedd, ar ôl cael ei ddefnyddio’n flaenorol fel y clwb cymdeithasol ar gyfer Clwb y Ceidwadwyr drws nesaf.
Yn fwy diweddar, cafodd ei ailwampio i fod yn lleoliad ar gyfer gigs a digwyddiadau eraill.Ond os caiff cynlluniau eu cymeradwyo gan gynllunwyr Cyngor Gwynedd, byddai’r lleoliad yn cael ei droi’n bâr o fflatiau un ystafell wely a phâr arall o fflatiau dwy ystafell wely – a rheiny’n cael eu disgrifio fel “fflatiau gwyliau hunanarlwyo o ansawdd uchel”.
Mae’r dogfennau ategol sy’n cyd-fynd â’r cais yn dweud: “Er bod gwaith mewnol sylweddol yn cael ei gynnig o fewn y bwlch a adawodd yr hen glwb cymdeithasol, ychydig iawn o newidiadau a gynigir i’r ymddangosiad allanol, a fydd yn cael ei gyfyngu i atgyweirio a chynnal nodweddion presennol a mewnosod nifer fach o oleuadau to.
“Mae’r cynnig yn gyfle i ddiogelu dyfodol adeilad pwysig o fewn yr Hen Dref, heb niwed i’w rinweddau hanesyddol a phensaernïol.
“Ni fydd yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos na’r Hen Dref, a bydd yn dod â bywyd, bywiogrwydd a chynhyrchu incwm lleol. Mae’r cynnig yn gwbl unol â pholisïau perthnasol y cynllun datblygu.”
Disgwylir y bydd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried y cais dros yr wythnosau nesaf.