Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu bod mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru.

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hymestyn nes fis Rhagfyr 2023.

Daw 1.3 miliwn hectar o dir amaethyddol Cymru o dan gontract Glastir ac mae parhau â’r cynllun yn sicrhau bod safleoedd ac ardaloedd â blaenoriaeth yng Nghymru yn cael eu rheoli’n effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Mae hyn yn cynnwys gwarchod a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella’n hadnoddau pridd a dŵr, adfer cynefinoedd mawnogydd a chyfrannu at ddatgarboneiddio amaethyddiaeth Cymru.

Bydd pob un sydd â chontract ar hyn o bryd yn cael estyniad drwy eu cyfrifon presennol.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi hefyd bod £7 miliwn ar gael i ymestyn y rhaglen Cyswllt Ffermio nes fis Mawrth 2023.

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth busnes i filoedd o ffermwyr a choedwigwyr dros Gymru, gan gynnwys cyngor ar feysydd lle gallen nhw wella, datblygu sgiliau, a helpu i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o weithio.

“Proffesiynol, proffidiol a chadarn”

Dywedodd Lesley Griffiths, ei bod hi’n “falch iawn” o fedru sicrhau’r arian drwy gontractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig.

“Mae’r rhaglen yn hanfodol er mwyn cefnogi’n ffermwyr a bydd yr estyniad hwn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol,” meddai Lesley Griffiths.

“Dw i hefyd yn falch y bydd £7 miliwn arall ar gael i gynnal Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023.

“Bydd hyn yn helpu i greu sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a chadarn, wrth inni fynd i’r afael â sawl her a chyfle, gan gynnwys lleihau allyriadau’r holl nwyon tŷ gwydr i sero-net erbyn 2050, ac ymdopi ag amgylchedd masnachu sy’n newid drwy’r amser i’r diwydiant.

“Ar ôl ymweld â ffermydd ym mhob cwr o Gymru, dw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae Cyswllt Ffermio yn ei chael ar fywoliaeth ein ffermwyr, a dw i’n edrych ’mlaen at weld mwy o fudd iddyn nhw, diolch i’r cyhoeddiad hwn heddiw.

“Mae newid sylweddol a phwysig ar y gorwel a fydd yn rhoi dyfodol sefydlog a chynaliadwy i’r diwydiant ac i gymunedau gwledig Cymru. Yn y cyfamser, bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau tan 2023, yn amodol ar gyllid oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr wrth inni weithio gyda’n gilydd i groesi’r bont at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.”