Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd A40 yn Sir Benfro neithiwr (nos Wener, Medi 25).

Cafodd tri o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ac mae ganddyn nhw anafiadau sy’n peryglu eu bywydau.

Cafodd pedwar yn rhagor eu hanafu yn y digwyddiad ger troad Trecw am oddeutu 11:50yh.

Bu’n rhaid cau’r ffordd dros nos er mwyn cynnal ymchwiliad, gyda’r ambiwlans, y gwasanaeth tân a hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd yn ymateb i’r digwyddiad.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd wedi gweld Skoda gwyn neu Chrysler coch yn teithio ar hyd y ffordd cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.