Fe fu ergyd i gynlluniau Syr Keir Starmer ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur cyn cynhadledd y blaid yn Brighton.
Bu’n rhaid i’r arweinydd addasu ei gynlluniau ar ôl mynnu y byddai’r gynhadledd yn gyfle i “amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol”.
Ond bu’n rhaid iddo fe gefnu ar gynlluniau i roi mwy o lais i aelodau seneddol wrth ethol arweinydd newydd, a hynny yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gydag undebau ac aelodau asgell chwith sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau.
Mae e bellach wedi cyflwyno cynlluniau newydd i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.
Yn ôl Angela Rayner, dirprwy arweinydd y blaid, roedd hi wedi cael ar ddeall na fyddai’r cynllun i gyflwyno coleg etholiadol yn cael ei drafod yn y cyfarfod cenedlaethol ac na fyddai’n destun pleidlais yn ystod y gynhadledd.
O dan y cynllun roedd yr arweinydd yn ei gynnig, fe fyddai arweinwyr yn cael eu hethol gan ddefnyddio trefn y coleg etholiadol, sy’n gyfuniad o undebau a chyrff cysylltiedig, aelodau seneddol ac aelodau’r blaid, yn hytrach na’r drefn o roi un bleidlais i bob aelod.
Byddai hynny wedi golygu rhoi’r un statws i bleidleisiau’r 400,000 o aelodau â’r 199 o aelodau seneddol.
Er gwaetha’r tro pedol, mae’r blaid yn disgwyl i rai newidiadau gael eu cyflwyno i’r drefn bresennol.
Y drefn
Yn ôl Press Association, ymhlith y newidiadau a gafodd eu trafod roedd cynyddu’r angen i 10% o aelodau seneddol Llafur gefnogi ymgeisydd i 25% a dileu’r angen i gefnogwyr fod wedi’u cofrestru.
Hefyd, bydd angen i aelodau fod wedi bod yn aelodau ers chwe mis i gael pleidleisio yn etholiadau’r dyfodol.
Mae e hefyd am weld y broses o ddad-ddewis aelodau seneddol yn mynd yn fwy anodd, a bydd angen i 50% o aelodau ac undebau cysylltiedig gefnogi’r cam yn hytrach na’r traean ar hyn o bryd.
Yn ôl Momentum, mae’r cynllun ar gyfer y coleg etholiadol “yn farw”, ac maen nhw am weld y blaid yn cefnu ar ei holl awgrymiadau eraill hefyd.
Ymhlith y materion eraill sy’n debygol o gael sylw mae hawliau pobol drawsryweddol, ymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chamau i frwydro yn erbyn gwrth-Semitiaeth.