Dylai gwleidyddion yr Alban orfod cydsynio i i “benderfyniadau mawr” ynghylch amddiffyn neu Trident, un ôl Aelod Seneddol Albanaidd.
Mae Katy Clark, sy’n cynrychioli’r Blaid Lafur, yn dadlau bod materion tanllyd megis Trident, sydd wedi’i leoli yn Faslane, a rhyfeloedd amhoblogaidd fel Rhyfel Irac wedi tanio’r awydd am annibyniaeth.
Daw ei sylwadau mewn llyfr newydd sy’n galw am “newid radical” nad yw’n mynd mor bell ag annibyniaeth pe bai ail refferendwm yn yr Alban.
Mae’n galw am ddatganoli pwerau tros fewnfudo, trethi, cyfreithiau cyffuriau ac amddiffyn i Holyrood.
“Dylai’r egwyddor o undeb rhwng y cenhedloedd fod yn seiliedig ar gydsyniad pob cenedl,” meddai.
“I’r gogledd o’r ffin, gallai hyn gynnwys gofyniad fod penderfyniadau gwleidyddol sy’n ymwneud ag amddiffyn sy’n effeithio ar yr Alban yn benodol – gan gynnwys penderfyniadau mawr ynghylch system arfau niwclear Trident – orfod cael cydsyniad Senedd yr Alban neu’r bloc o aelodau seneddol yn San Steffan sy’n cynrychioli etholaethau’r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin.”
Gwrthod ‘Goruwchundebaeth’
Yn ôl y Farwnes Bryan, golygydd Scottish Independence: There is a Third Option, mae angen i Lafur wrthod “goruwchundebaeth” (uber-Unionism) os ydyn nhw am ddenu Albanwyr dosbarth gweithiol atyn nhw unwaith eto.
Mae hi’n dadlau bod yr egwyddor “wedi troi nifer i ffwrdd” oddi wrth y blaid.
“Mae’r status quo yn golygu parhau i oddef o dan un o’r llywodraethau Torïaidd mwyaf asgell-dde, awdurdodol, a byddai’r opsiwn amgen sydd wedi’i hamlinellu gan yr SNP ar gyfer annibyniaeth yn cloi’r Alban i mewn i bolisïau llymder am o leiaf ddegawd cyntaf annibyniaeth gyda chanlyniadau ofnadwy i wasanaethau cyhoeddus a swyddi,” meddai.
“Mae’n glir pe bai yna refferendwm yn y dyfodol fod rhaid iddo fod ar sail tair opsiwn – y status quo, newid radical nad yw’n annibyniaeth, ac annibyniaeth.”
Mae’r Farwnes Bryan yn mynnu mai yn nwylo Albanwyr ddylai dyfodol yr Alban fod, a bod y ddadl ynghylch y cyfansoddiad “yn sugno’r aer allan o wleidyddiaeth ar draul swyddi a gwasanaethau cyhoeddus”.