Mae ymgyrchwyr wrthi’n trefnu protest fawr yng Nghaerdydd a fydd yn cyd-daro ag uwchgynhadledd newid hinsawdd fawr yn Glasgow.
Bydd arweinwyr gwleidyddol o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd yn yr hydref ar gyfer uwchgynhadledd Cop26, lle byddan nhw’n trafod eu cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.
Bydd yr uwchgynhadledd dan ofal y Deyrnas Unedig yn cael ei chynnal rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12.
Mae disgwyl protest fawr yng Nghaerdydd ar Dachwedd 6 i alw ar lywodraethau i weithredu er mwyn ceisio atal cynhesu byd eang.
Cafodd Clymblaid Cop26 ei sefydlu yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Medi 25) i drefnu’r brotest ac i alw am wirfoddolwyr i’w helpu â’r trefniadau.
“Mae’r cysylltiadau rhwng hinsawdd ac anghyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yng Nghaerdydd, gan dreiddio trwy faterion hanfodol megis gofal iechyd, tai, addysg a chyfleoedd swyddi – ac rydyn ni’n gwybod mai’r rheiny sy’n cyfrannu lleiaf at yr argyfwng hinsawdd yw’r bobol sy’n profi’r effeithiau mwyaf niweidiol,” meddai Marla King, cydlynydd Clymblaid Cop26 Caerdydd.
“Bydd yr hwb yn pontio cysylltiadau rhwng y materion hyn, gan ddod ag undebau llafur, eiriolwyr gwrth-hiliaeth a hawliau mewnfudwyr, ieuenctid, grwpiau ffeministiaid, ymgyrchwyr anableddau, grwpiau ffydd ac unigolion ynghyd.
“Rydym yn galw ar bawb i gael llwyfan i’w llais ar Dachwedd 6 wrth i ni ymgynnull am ganol dydd ger Neuadd y Ddinas.”
Y brotest
Bydd y brotest yn dechrau am ganol dydd ac yn symud trwy ganol y brifddinas, gyda rali i orffen y tu allan i’r Senedd.
Mae’r grwpiau lleol sydd ynghlwm wrth Cop26 yn cynnwys Bargen Werdd Newydd Caerdydd, Cymdeithas Sifig Caerdydd a grwpiau Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace lleol.
Bydd digwyddiad i’r teulu hefyd i godi arian at Barc Biwt yn dilyn difrod yno’n ddiweddar.
“Mae blynydddoedd o ddiffyg gweithgarwch yn dangos na fyddwn ni’n cael y gweithgarwch radical sydd ei angen arnom i herio newid hinsawdd heb fod pobol gyffredin yn cymryd rhan yn uniongyrchol,” meddai Dave Bartledd, Ysgrifennydd Cyngor Undebau Llafur Caerdydd.
“Gallwch weld blaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig – maen nhw’n bwriadu defnyddio arian cyhoeddus i ariannu’r cwmnïau ynni preifat mawr hyd yn oed wrth iddyn nhw godi eu prisiau ar gyfer cwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd.
“Mae angen mudiad grymus arnom lle dylai undebau llafur chwarae rhan flaenllaw i fynnu bod ynni mawr yn cael ei wladoli fel y gallwn ni symud yn gyflym at ynni adnewyddadwy tra ein bod ni’n gwarchod swyddi.
“Chawn ni ddim pris teg oni bai ein bod ni’n cael rheolaeth ar y diwydiant.
“Dylai pawb ymuno â’r brotest ar Dachwedd 6 er mwyn adeiladu cefnogaeth ar gyfer y newid radical sydd ei angen arnom.”