Mae ymgyrchwyr tai haf wedi trefnu gorymdaith gerdded er mwyn rhoi pwysau ymhellach ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Byddan nhw’n teithio 18 milltir ar droed o Ben Llŷn i Gaernarfon ddydd Sadwrn (25 Medi) am yr ail dro, ar ôl gwneud hynny am y tro cyntaf flwyddyn yn ôl.

Dywed grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, sy’n trefnu’r orymdaith, mai “ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni yn wleidyddol” ers y daith gerdded gyntaf, a bod y brotest ddiweddaraf er mwyn pwysleisio’r angen i weithredu.

Maen nhw’n galw eto ar Arweinydd y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn i sicrhau adolygiad ar frys i’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ei atgyfnerthu i warchod cymunedau lleol a’r Gymraeg.

Yn ogystal, maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru gyflwyno toriad ar brynu ail dai a sicrhau bod angen hawl cynllunio i drosi tŷ preswyl yn dŷ haf.

Bydd y daith yn dechrau ym maes parcio canolfan iaith Nant Gwrtheyrn am 8 y bore, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio cyrraedd Caernarfon erbyn 3 y prynhawn, lle byddan nhw’n ymgynnull tu allan i Bencadlys y Cyngor Sir.

Mae’r trefnwyr yn rhoi croeso i unrhyw un ymuno drwy gydol y daith, sy’n pasio drwy bentrefi fel Trefor, Clynnog Fawr a Llanwnda.

Diffyg gweithredu yn “siom”

Dywed Rhys Tudur o grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra bod dim llawer wedi ei gyflawni ers y daith gyntaf flwyddyn yn ôl.

“Mae ein cymunedau yn parhau i fod yn ddiamddiffyn gyda chwlwm bro pobl leol yn cael eu rhwygo am na allent fforddio tŷ yn eu cymunedau,” meddai.

“Mae cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn crebachu ac maent bellach yn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig.

“Siom yw nad yw ein Llywodraeth nac Arweinyddiaeth ein Cyngor Sir yn gweithredu ar frys ac yn eofn i ddatrys yr argyfwng.”