Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o bedwar achos o lofruddiaeth ar ôl i fam a thri o blant gael eu canfod yn farw mewn tŷ.

Cafodd cyrff John Paul Bennett, 13, Lacey Bennett, 11, eu mam Terri Harris, 35, a ffrind Lacey, Connie Gent, 11, eu darganfod mewn eiddo yn  yn Chandos Crescent yn Killamarsh, ger Sheffield, fore Sul (19 Medi).

Dywedodd Heddlu Swydd Derby bod Damien Bendall wedi cael ei gyhuddo o’u llofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd y pedwar corff eu canfod ar ôl i’r heddlu ymateb i alwad gan berson oedd yn pryderu am ddiogelwch dyn yn y ty am 7.26am.

Bydd Damien Bendall, o Chandos Crescent, yn ymddangos yn Llys Ynadon De Swydd Derby heddiw (dydd Mercher, 22 Medi).

Fe wnaeth Heddlu Swydd Derby sefydlu porth ar-lein ddydd Mawrth (21 Medi) er mwyn i bobol allu cyflwyno lluniau sy’n ymwneud â’r achos.

Gall y cyhoedd roi gwybodaeth neu anfon fideos teledu cylch cyfyng, fideo cloch drws neu luniau dashcam yn uniongyrchol at y tîm ymchwilio.

Yn y cyfamser, datgelodd swyddogion fod Damien Bendall wedi’i gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sally Blaiklock, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae ein meddyliau gyda theuluoedd Terri, John Paul, Lacey a Connie – yn ogystal â’r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau trasig hyn.

“Mae ymchwiliad mawr yn parhau i fod ar waith yn Chandos Crescent a bydd trigolion lleol yn gweld mwy o bresenoldeb gan yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf, gan gynnwys patrolau gan swyddogion yn yr ardal leol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu am y digwyddiad i siarad â swyddogion yn yr ardal neu ddefnyddio’r teclyn adrodd ar-lein i drosglwyddo gwybodaeth yn gyfrinachol.”