Mae gwerth dros £1 biliwn o bensiynau’r wladwriaeth heb eu talu oherwydd camgymeriadau dynol, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif bod 134,000 o bensiynwyr ar eu colled.

Bydd y rhai sydd wedi colli allan yn cael eu talu £8,900 ar gyfartaledd, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Amcangyfrifir y bydd £339 miliwn yn mynd i bensiynwyr a ddylai fod wedi elwa o gofnod yswiriant gwladol eu priod neu bartner sifil; £568miliwn i weddwon a ddylai fod wedi etifeddu mwy o hawl pensiwn gan eu partner; a £146 miliwn i bensiynwyr a ddylai fod wedi cael cynnydd yn eu pensiwn ar eu pen-blwydd yn 80 oed.

Dywedodd Meg Hillier, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan: “Mae llawer o bensiynwyr – y rhan fwyaf ohonynt yn debygol o fod yn fenywod – wedi colli allan ar filoedd o bunnoedd ac maen nhw’n dal i ddisgwyl amdano flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.

“Er ei bod yn gadarnhaol bod yr Adran Gwaith a Phensiynau bellach yn gweithio i adfer hyn, nid dyma’r camgymeriad cyffredinol cyntaf a welsom yn yr Adran yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Daw cywiro’r gwallau hyn ar gost fawr i’r trethdalwr.

“Rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud yn iawn am hyn ar frys gan gymryd camau gwirioneddol i atal gwallau tebyg yn y dyfodol.”

Rhwng 11 Ionawr a 5 Medi 2021, adolygodd yr Adran 72,780 o achosion yr oedd wedi nodi eu bod mewn perygl o fod wedi’u tandalu neu oedd wedi cysylltu yn cwestiynu eu taliad, a thalodd gyfanswm o £60.6 miliwn o ôl-ddyledion i 11% o’r achosion hyn.

Mae’r Adran yn blaenoriaethu unigolion sy’n perthyn i gategorïau “bregus”, megis y rhai sy’n weddw neu dros 80 oed.

Nid yw’r Adran yn gwybod faint o bensiynwyr sydd wedi marw sydd wedi cael eu tandalu oherwydd, am resymau diogelu data, nid yw fel arfer yn cadw cofnodion am fwy na phedair blynedd ar ôl marwolaeth pensiynwr.

Ym mis Awst 2021, nid oedd yr Adran wedi cymeradwyo cynllun ffurfiol i olrhain ystadau pensiynwyr sydd wedi marw.

Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: “Mae effaith tandalu pensiwn y wladwriaeth ar y pensiynwyr hyn yn sylweddol.

“Mae’n hanfodol bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cywiro tandaliadau ac yn gweithredu newidiadau i atal problemau tebyg yn y dyfodol.”