Mae HSBC wedi lansio menter i helpu staff canghennau yng Nghymru i wella eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r banc yn gobeithio gweld staff yn siarad Cymraeg â chwsmeriaid sy’n dymuno gwneud hynny.
Byddan nhw’n ceisio manteisio ar sgiliau gweithwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg, ac yn defnyddio adnoddau ar-lein Llywodraeth Cymru i hybu defnydd o’r iaith.
Hefyd, maen nhw am sicrhau bydd pob arwydd newydd mewn canghennau yng Nghymru yn rhoi’r Gymraeg yn gyntaf, yn ogystal â chynnig deunydd ysgrifenedig fel pamffledi yn Gymraeg,
Mae gwreiddiau’r cwmni bancio yng Nghymru yn ymestyn yn ôl i 1762, pan gafodd Banc y Llong ei sefydlu yn Aberystwyth.
Fe ddaeth y banc hwnnw’n rhan o grŵp bancio Midland yn 1908, gyda’r grŵp hwnnw’n dod yn rhan o HSBC yn y 1990au.
“Chwarae ein rhan”
Mae Jackie Uhi, pennaeth rhwydwaith canghennau HSBC, yn falch o allu cynnig y gwasanaethau newydd.
“Mae’n wych gweld defnydd o’r Gymraeg yn dod yn fwy cyffredin yn ddiweddar,” meddai.
“Fel darparwr gwasanaeth, rydyn ni wedi ein cyffroi gan y cyfle i chwarae ein rhan yn nhwf yr iaith, gan ffurfioli’r gefnogaeth y gallwn ei rhoi i’n cwsmeriaid ledled Cymru.
“Rwy’n falch o weld bod dros 50 o weithwyr cangen yn gweithio ar wella eu sgiliau iaith Gymraeg i sicrhau bod hynny’n digwydd, gyda mwy yn mynegi diddordeb mewn gwneud yr un peth.
“Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael ar y foment honno yn y gangen, byddwn yn trefnu i’r cwsmer dderbyn galwad yn ôl i sgwrsio yn Gymraeg.
“Gyda chwsmeriaid yn aml yn ffafrio cyfathrebu wyneb yn wyneb, yn enwedig wrth ddelio â phynciau sensitif ac emosiynol fel profedigaeth, gallai’r gefnogaeth ychwanegol hon wneud gwahaniaeth mawr i gwsmeriaid mewn angen.”
“Sgil gydol oes werthfawr”
Mae Mathew Thomas, swyddog hybu ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, yn dweud bod llawer o bobol yn elwa o gynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.
“Mae ymchwil yn dangos bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddefnyddio Cymraeg gyda banciau, ac rydyn ni wedi gweld bod arweinwyr busnes yn gweld yr iaith yn fantais wrth fasnachu yng Nghymru.
“Rydyn ni’n croesawu’r fenter hon a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i gwsmeriaid HSBC ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda’r banc.
“Mae gallu siarad Cymraeg yn sgil gydol oes werthfawr y bydd cydweithwyr HSBC yn ei chael yn fuddiol, nid yn unig wrth wasanaethu cwsmeriaid, ond mewn cylchoedd cymdeithasol hefyd.
“Mae dysgu iaith yn cymryd amser, ac rydyn ni’n annog holl gwsmeriaid HSBC sy’n siarad Cymraeg i gefnogi’r staff trwy roi cyfle iddyn nhw ymarfer yr iaith mewn canghennau.”