Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn rhai cynigion gan y Pwyllgor Materion Cymreig i greu Bwrdd Rheilffyrdd i Gymru.

Y bwriad yw creu fforwm swyddogol a fydd yn edrych ar seilwaith a buddsoddiad er mwyn cynnig gwelliannau i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Bydd y bwrdd newydd yn cynnwys y pwyllgor materion Cymreig, Llywodraeth Cymru, Network Rail, y gweithredwyr rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru.

Fe ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Stephen Crabb: “Clywsom gan nifer o dystion yn ystod ein hymchwiliad fod angen mwy o gydgysylltu i sbarduno buddsoddiad a gwelliannau, a gobeithiaf y bydd y Bwrdd yn cyflawni hyn”.

Siop Siarad

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Grŵp Plaid Cymru Senedd yn San Steffan yn rhybuddio ni ddylai’r Bwrdd fod yn siop siarad yn unig, gan alw am ddatganoli grymoedd seilwaith rheilffyrdd i Fae Caerdydd.

Fodd bynnag, roedd adroddiad y Pwyllgor hefyd wedi galw am ailddosbarthu’r prosiect HS2 gwerth £108 biliwn fel cynllun i Loegr yn unig a fyddai’n darparu amcangyfrif o £5 biliwn i Gymru drwy’r fformiwla Barnett.

“Ers amser maith, mae Cymru wedi gorfod rhoi addewid ar ôl torri addewid gan San Steffan, gan ein gadael gyda threnau gorlawn ac annibynadwy sy’n mynd ar hyd hen draciau,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’n hanfodol felly bod Bwrdd Rheilffyrdd Cymru ddim yn siop siarad yn unig ond bod cynllun buddsoddi 10 mlynedd yn cyd-fynd ag ef a fydd yn sicrhau newid trawsnewidiol i’n rhwydwaith rheilffyrdd.

“Mae’n parhau’n wir, er bod y pwerau dros seilwaith rheilffyrdd yn San Steffan, y bydd rheilffyrdd Cymru yn parhau i fod yn ôl-ystyriaeth.”

Ni fydd gan y Bwrdd newydd y gallu i orfodi Llywodraeth y DU i wario mwy ar fuddsoddi ar y rheilffyrdd yng Nghymru.

Bydd prosiectau yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddi ynghyd â chynlluniau ledled y DU ar gyfer y cyfnod buddsoddi dros y pum mlynedd nesaf.

Y tu allan i’r costau cynnal a chadw ac adnewyddu, dim ond £345m sydd wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau gwella rheilffyrdd yng Nghymru.

Trydaneiddio

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod angen i Lywodraeth y DU fod yn barod i gydweithio hefyd.

“Mae angen i Lywodraeth y DU fod yn barod i weithio gyda ni, yn hytrach na chymryd pwerau i ffwrdd o Gymru gan feddwl eu bod nhw wastad yn gwybod beth sy’n iawn i Gymru,” meddai ar lawr y siambr ddoe (21 Medi).

Mae cynlluniau rheilffyrdd fel trydaneiddio’r lein rhwng Llundain ac Abertawe wedi eu trafod am dros ddegawd gyda Gweinidog yn Swyddfa Cymru David TC Davies yn dweud na fyddai cynllun o’r fath o fudd i bobl Cymru.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe fe ofynnodd Adam Price os oedd sefydlu’r bwrdd newydd yn gyfle i fynd i’r afael â thrydaneiddio rheilffyrdd ac i “wyrdroi ei thro pedol trydaneiddio a rhoi’r gorau i drin Cymru fel diwedd rheilffyrdd Prydain”.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Rydym am wneud yr achos ynghylch trydaneiddio nid yn unig yn fater i’r De ond mae trydaneiddio yn y Gogledd hefyd yn bwysig.”

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru mapiau newydd gyda’r bwriad i adeiladu rheilffordd rhwng Bangor a’r gorllewin a hefyd rhwng Bangor ac Amlwch, Ynys Môn.

Mae disgwyl i’r Bwrdd newydd gwrdd eleni.

Gobaith newydd o gael rheilffordd a threnau o Fangor i Gaernarfon, Afonwen ac Amlwch

“Yn ogystal ag annog ymwelwyr i ddod yma ar y trên, byddai rheilffordd yn galluogi pobl leol i gael swyddi ar hyd arfordir y gogledd”