Mae’r undeb amaeth NFU Cymru yn galw am weithredu ar frys gan Lywodraeth y DU i ddelio â phrinder carbon deuocsid (CO2) ac effaith hynny ar y gadwyn gyflenwi.

Mewn uwchgynhadledd frys o gynrychiolwyr o gadwyn gyflenwi bwyd y DU ddoe (Mawrth 21 Medi) fe alwyd am weithredu i adfer cyflenwadau carbon deuocsid.

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Aled Jones: “Er ei bod yn dda clywed mewn egwyddor y gallai  ffatrïoedd sy’n cyflewni CO2 ailgychwyn, mae’n bwysig bod yr ailgychwyn hwn yn ystyrlon ac yn barhaus.

“Ni roddwyd fawr ddim rhybudd i ddefnyddwyr carbon deuocsid y byddai cyflenwadau’n cael eu torri i ffwrdd – arwydd o fethiant y farchnad mewn sector sy’n cefnogi ein seilwaith cenedlaethol hanfodol.

“Mae angen eglurder brys ar y manylion, gan gynnwys amserlen a maint o chyfaint o CO2 fydd yn cael ei gynhyrchu a nodwyd yn y cytundeb.”

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ailagor CF Industries, cwmni sy’n cyflenwi CO2 yn ei safle yn Teesside yn Lloegr.

CO2 yn y gadwyn gyflenwi

Mae CO2 yn ymestyn oes bwyd trwy ei gadw’n ffres tra’n cael ei gludo.

Mae cyflenwadau carbon deuocsid yn hollbwysig yn y diwydiant bwyd, sy’n cynnwys:

  • Dŵr pefriog, diodydd meddal, diodydd alcoholig er mwyn hwyluso ddosbarthu diodydd a chwrw mewn tafarndai
  • Twf planhigion – fel ciwcymbrau – mewn tai gwydr.
  • Gwneud moch ac ieir yn anymwybodol cyn eu difa ar gyfer cigoedd pecynnu,

Ond ychwanegodd Aled Jones: “Hyd yma, mae cadwyn gyflenwi bwyd y DU wedi gwneud gwaith gwych yn cadw ein silffoedd yn llawn, ond mae’r dyddiau diwethaf hyn wedi amlygu’n llwyr pa mor fregus  yw’r gadwyn gyflenwi.

“Mae’n rhywbeth na ddylai’r Llywodraeth ei gymryd yn ganiataol ac rwyf am inni ddefnyddio’r foment hon i sicrhau ein bod i gyd yn deall yr hyn sydd yn y fantol.”

‘Bwyta’n lleol’

Mae Samuel Kurtz, Llefarydd Cysgodol y Ceidwadwyr dros Faterion Gwledig a’r Gymraeg yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywdraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio.

“Mae’r undebau ffermio yn iawn i godi pwysigrwydd C02 yn y sector bwyd ac rwy’n annog llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i gydweithio yn ystod yr anawsterau presennol,” meddai Samuel Kurtz wrth Golwg 360.

“Mae’r prinder CO2 yn dangos y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth ein cadwyni cyflenwi, lle gall newid mewn un diwydiant gael effaith negyddol ar un arall.

“Mae fy neges i siopwyr yn parhau i fod i “Fwyta’n lleol’. Mae gan fwyd lleol ddibyniaeth is ar CO2 ac mae ganddo ôl troed carbon llai.”