Nawr yw’r amser cywir i ddechrau trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, meddai un darllenydd mewn gwleidyddiaeth.
Yn ôl Dr Anwen Elias, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r pandemig wedi codi ymwybyddiaeth ynghylch cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.
Mae’r awydd am annibyniaeth yn yr Alban a’r cwestiynau ynghylch perthynas Gogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig hefyd yn codi cwestiynau am ddyfodol cyfansoddiadol i Gymru.
Eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am ddechrau sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, a bydd Comisiwn Dinasyddion yn lansio yn yr hydref.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi colli’r plot”, a’u bod nhw’n symud fwyfwy tuag at y dde ac yn ceisio hyrwyddo cenedlaetholdeb Anglo-Brydeinig.
Er ei fod yntau wedi dweud ei fod am weld “Cymru gref mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus”, a Mark Drakeford wedi dweud mai “trwy ddatganoli cryf bydd anghenion Cymru’n cael eu diwallu orau”, dywedodd Mick Antoniw yr hoffai weld newid positif bod hynny drwy strwythur ffederal, yr undeb neu annibyniaeth.
Diffyg datganoli’r cyfryngau
Mae cynnal sgwrs genedlaethol o’r fath yn dod â’i heriau, meddai Dr Anwen Elias, sy’n Brif Ymchwilydd prosiect ‘Creu Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru’, sef prosiect sy’n archwilio’r potensial o ddefnyddio elfennau creadigol er mwyn cysylltu pobol ifanc â thrafodaethau cyfansoddiadol.
“Dw i’n meddwl bod rhaid dechrau trwy siarad gyda’r bobol rydyn ni moyn i fod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol yma, i weld sut fydden nhw’n hoffi cael y sgwrs, ble ddylai’r sgwrs ddigwydd, er mwyn ein bod ni’n cael sgwrs sy’n berthnasol i bobol, sy’n digwydd mewn ffyrdd sy’n accessible i bobol,” meddai Dr Anwen Elias wrth golwg360.
“Drwy hynny, ein bod ni’n dechrau gyda’r bobol rydyn ni moyn siarad â nhw er mwyn deall sut gallen ni gael y fath sgwrs a chynllunio ar y sail honno… fel ein bod ni ddim yn cael sgwrs sydd wedi’i chynllunio i wleidyddion, academyddion, sy’n dod o’r top lawr.
“Ein bod ni’n cymryd approach wahanol.”
Un o’r heriau mawr sy’n wynebu unrhyw ymdrech i gael sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yw bod lefelau o wybodaeth am ddatganoli yng Nghymru’n isel iawn, eglurodd Dr Anwen Elias.
“Hynny ydi dyw pobol ddim yn gwybod be mae’r Senedd yn wneud, beth yw eu hawliau nhw, beth yw’r broses polisi, pwy sy’n arwain y Senedd,” eglurodd.
“Mae lefel ymwybyddiaeth am wleidyddiaeth yn gyffredinol yn isel iawn, ac mae hynny yn cael goblygiadau i ddemocratiaeth – pobol ddim yn pleidleisio, pobol ddim â diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
“Felly un o’r problemau sydd yng Nghymru bod y diffyg media yn cyfrannu at hynna, achos does dim coverage am wleidyddiaeth Cymru, issues Cymreig, dyw hwnna ddim yn helpu’r broblem sylfaenol o ddiffyg gwybodaeth.
“Mae hynny’n her fawr pan mae hi’n dod i drio trafod pethau cyfansoddiadol cymhleth achos rydych chi’n dechrau o lefel o wybodaeth isel iawn.
“Ond hefyd mae’n anodd cael y fath yna o drafodaeth pan does yna ddim cyfryngau sydd, falle, yn gallu bod yn supporting vehicle i hynna, ac yn hybu trafodaeth annibynnol, onest, gynhwysfawr o’r issues yma.”
Wythnos ddiwethaf, wedi i un o gyn-weinidogion cabinet Llywodraeth San Steffan ddweud ei fod yn disgwyl i ddarlledwyr cyhoeddus megis S4C gynhyrchu rhaglenni ‘nodweddiadol Brydeinig’, dywedodd un o aelodau Bwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol bod diffyg datganoli’r cyfryngau yn niweidio democratiaeth Cymru.
“Mae’r diffyg cyfryngau yng Nghymru yn broblem i ddemocratiaeth, y gobaith fyddai bod datganoli’r math yna o bethau yn creu mwy o sgôp i Lywodraeth Cymru i gymryd action ar hynny, a newid y cyd-destun cyfryngol yna,” meddai Dr Anwen Elias.
“Mae yna botensial i wneud hynny i helpu democratiaeth i gael trafodaeth wleidyddol well, ond hefyd byddai’n gallu helpu’r math o sgwrs genedlaethol rydyn ni’n siarad ambyti am fod y sgwrs yna’n gallu digwydd hefyd trwy’r cyfryngau.”
“Amser cywir”
Mae rhai wedi dweud na ddylid cynnal sgwrs genedlaethol nawr oherwydd y dylid canolbwyntio ar adfer wedi’r pandemig, ond yn ôl Dr Anwen Elias, dyma’r amser cywir.
“Yn sicr, mae’r pandemig a’r goblygiadau hynny’n golygu bod lot ar yr agenda wleidyddol ar hyn o bryd ac mae yna flaenoriaethau wrth gwrs oherwydd hynny all arwain rhai i ddadlau nad hwn yw’r amser gorau,” dywedodd.
“Bydden i’n dadlau i’r gwrthwyneb, dw i’n credu mae’r pandemig wedi dangos i ni fod yna oblygiadau i’r ffordd mae penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu cymryd, bod yna bwerau gwahanol yng Nghymru ac yn San Steffan i ddelio efo’r math yma o issues, a bod yna consequences i hynny.
“Mae’r pandemig wedi arwain at densiynau newydd rhwng, er enghraifft, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, a’r tensiynau hynny ddim yn rhai sy’n mynd i ddiflannu.
“O ran hynny, mae’n amser da i gael y sgwrs yma oherwydd mae trefniadau cyfansoddiadol, er eu bod nhw’n rhai cymhleth a bod nhw’n anodd eu deall, yn cael effaith ar bolisïau sydd yn cael effaith ar fywydau pob dydd pobol.
“Felly mae hwn yn gwestiwn pwysig, ac mae’n teimlo i fi fel yr amser cywir i ddechrau trafod hynny.
“Dw i’n credu bod y pandemig yn sicr wedi creu ymwybyddiaeth o nid jyst Llywodraeth Cymru a bod pwerau gyda Llywodraeth Cymru, ond hefyd bod gwahaniaethau rhwng beth mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdano a beth sy’n gyfrifoldeb i San Steffan.
“Dw i’n credu ei fod wedi creu ymwybyddiaeth newydd o’r setliad datganoledig, o sut mae hwnnw’n gweithio, a hefyd, ella, beth yw’r problemau gyda sut mae pethau ar hyn o bryd.”
Tensiynau cyfansoddiadol
Mae’r galwadau am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn codi cwestiynau mawr ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig, a pherthynas yr Alban â gweddill yr Undeb, esboniodd Dr Anwen Elias.
“Wrth gwrs, mae hynny â goblygiadau cryf i Gymru achos byddai’n codi cwestiwn mawr o ran statws Cymru yn y Deyrnas Unedig pe bai’r Alban yn gadael,” meddai.
“Yn y cyd-destun yna, mae yna gwestiynau cyfansoddiadol mwy ar yr agenda wleidyddol.”
Mewn darn ar y cyd â Dr Matt Wall, sy’n Athro Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe, ar gyfer The Conversation, eglura Dr Anwen Elias bod angen dechrau unrhyw drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru o’r gwaelod, gan ddechrau gyda sgwrs am faterion sy’n effeithio bywydau pob dydd pobol.
Mae’r drafodaeth ynghylch be fyddai’n digwydd i Trident pe bai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth yn enghraifft o rywbeth all effeithio ar fywydau pob dydd pobol yng Nghymru, meddai, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi wfftio sion y gallai’r arfau gael eu symud i Sir Benfro.
“Mae yna hefyd gwestiynau cyfansoddiadol yn dod o Ogledd Iwerddon, cwestiynu yna’r berthynas rhwng Gogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig yn dod o Brexit, ond yn hŷn na hynny hefyd.
“Mae yna lot o bethau ar yr agenda wleidyddol ar hyn o bryd sy’n pwyntio ar y tensiynau cyfansoddiadol yma, a’r angen i siarad am hyn a Llywodraeth Cymru, dw i’n credu, yn awyddus i arwain y drafodaeth yna, neu o leiaf gwneud yn sicr bod Cymru ddim yn cael ei hanghofio fel rhan o’r trafodaethau yna.”