Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Carolyn Harris, wedi annog Gareth Bale i helpu am yr eildro gydag ymgyrch i fwydo teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd dros y Nadolig.

Rhoddodd y pêl-droediwr £15,000 i brosiect Everyone Deserves A Christmas yn Abertawe llynedd, gyda’r arian yn ddigon i dalu am o leiaf 300 hamper bwyd.

Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd Carolyn Harris, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, bod cael gwared ar y cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol, ynghyd â chynnydd serth mewn prisiau ynni, colli swyddi, effaith busnesau’n cau, ac incwm is i rai ar ffyrlo yn debygol o olygu bod 2021 wedi cael effaith negyddol ar fwy fyth o deuluoedd na 2020.

Bydd yr ymgyrch hampers Nadolig yn digwydd eto yn Abertawe eleni, ac meddai Carolyn Harris: “Mae fy nhîm a fi yn gobeithio y bydd Gareth Bale – os wyt ti’n gwrando – yn helpu eto, gan barhau i godi arian arian yn hapus, pacio bocsys, a rhoi gwên ar wynebau yn nwyrain Abertawe gyda bocsys o felysion a’r hampers Nadolig.

“Mae’n anrhydedd gwneud hynny, ond dylai unrhyw un yn y Tŷ hwn sy’n gwneud hynny’n anghenraid oherwydd eu bod nhw’n meddwl nad yw teuluoedd angen y £20 ychwanegol mewn taliadau Credyd Cynhwyson, neu eu bod nhw’n gallu gwario’u hincwm ar gynnydd anferth mewn biliau ynni, feddwl am y plant hynny a theimlo cywilydd am eu gweithredoedd,” meddai Carolyn Harris, diriprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Pan wnaeth y gweinidog gyfeirio at Gredyd Cynhwysol fel cynnyrch, pan mai llinell fywyd yw e mewn gwirionedd, dw i’n ofni ei fod e’n gweld hawlwyr fel mwy o nwyddau nag unigolion.”

“Tlodi yn ddewis gwleidyddol”

Dywedodd Stephen Kinnock, yr Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan, wrth Dŷ’r Cyffredin y bydd y newid i Gredyd Cynhwysol yn tynnu £7.3 miliwn allan o economi ei etholaeth.

“Dyw’r arian yma ddim yn cael ei gynilo gan deuluoedd, mae’n cael ei wario mewn siopau a busnesau yn fy etholaeth, gan helpu’r economi leol, a helpu i greu swyddi,” meddai Stephen Kinnock.

“Hebddo, bydd y gallu i wario’n gostwng a bydd yr adferiad economaidd yn aros yn ei unfan. Mae aelodau ar y meinciau gyferbyn â fi wedi dweud, yn gywir, bod angen i ni dyfu’n ffordd allan o ddirwasgiad ac eto maen nhw’n hyrwyddo polisïau fydd yn rhoi stop ar y twf.

“Dyw’r gwasgu hyn ar safonau byw ddim yn anochel. Mae tlodi’n ddewis gwleidyddol. Mae’r gwasgu ar safonau byw yn ddewis gwleidyddol.

“Mae’r Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad i daro teuluoedd sy’n gweithio’n galed â dwy ergyd drwy dorri’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol a chynyddu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ar adeg pan mae prisiau bwyd, tanwydd ac ynni’n codi.

“Bydd hyn yn gosod baich enfawr ar bobol sy’n gweithio’n galed, a phenderfyniadau’r Llywodraeth sydd wedi siapio economi sydd wedi dod yn llai gwydn a llai sicr.”