Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi rhybuddio y byddan nhw’n cosbi unrhyw fyfyriwr sydd yn lledaenu camwybodaeth am y brechlyn Covid-19.

Daw hyn ar ôl i un o’u myfyrwyr ddechrau grŵp ymgyrchu o’r enw Students Against Tyranny er mwyn darbwyllo myfyrwyr eraill i beidio cael eu brechu.

Mae’n debyg mai diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yw’r cymhelliad tu ôl i ddechrau’r ymgyrch. Dywed yr ymgyrchydd bod “llawer o bobol ifanc ‘effro’ sy’n teimlo’n ynysig dros ben gyda’u barn.”

Mae o hefyd wedi dechrau tudalen Crowdfunder i gynyddu hysbysebion a marchnata, ac mae wedi denu bron i £10,000 o gyfraniadau hyd yn hyn.

Ymateb y Brifysgol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi dweud bod “safbwyntiau o’r fath ddim yn adlewyrchu safiad y Brifysgol.”

“Yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i gyd i gael o leiaf un dos o’r brechlyn cyn cychwyn eu cyrsiau er mwyn amddiffyn eu hunain a’n cymuned,” meddai llefarydd o’r brifysgol wrth WalesOnline.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n byrddau iechyd lleol i hwyluso’r broses o gyflwyno’r brechlyn.

“Mae’r brifysgol yn ymwybodol o sylwadau a wnaeth unigolyn ar gyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’n cymuned.

“Dydy safbwyntiau o’r fath yn adlewyrchu safiad y Brifysgol. Blaenoriaeth y brifysgol yw iechyd a lles ein cymuned.

“Mae gennyn ni fesurau cadarn ar waith i gadw ein cymuned yn ddiogel ac rydyn ni’n cyfleu mesurau o’r fath i’n staff a’n myfyrwyr yn rheolaidd.

“Mae Cod Ymddygiad Myfyrwyr y brifysgol yn nodi y dylai myfyrwyr ymddwyn mewn modd sydd ddim yn niweidio neu sydd ddim â photensial i niweidio unigolion eraill.

“Mae hyn yn cynnwys ymatal rhag gweithgareddau sy’n lledaenu camwybodaeth yn fwriadol, a byddai’r brifysgol yn gweithredu ei threfn disgyblu os yw myfyriwr yn torri’r rheoliadau hyn.”