Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru am ddiweddariad ar ddiogelwch peiriannau osôn mewn ysgolion.
Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau fod Llywodraeth Cymru wedi oedi’r cynllun glanhau osôn am y tro, yn dilyn pryderon a godwyd gan y gwrthbleidiau.
Mae peirannau osôn wedi bod yn destun dadleuol, a gwnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol ar benderfyniad o roi peiriannau diheintio aer mewn ystafelloedd dosbarth.
“Pan wnes i holi’r Prif Weinidog am y defnydd o’r rhain mewn ysgolion, cefais ar ddeall fod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori dechnegol i edrych ar y pryderon am ddiogelwch,” meddai Sian Gwenllian.
“Ydy’r adolygiad wedi gorffen ei waith, a beth oedd yr argymhellion? Beth fyddwch yn ei wneud?”
Mae llawer o arbenigwyr yn amheus o’r defnydd o beiriannau osôn ac yn credu y byddai’n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws mewn ysgolion – ac y byddai’n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a symud aer o gwmpas adeiladau.
‘Nwy gwenwynig’
Mae’r llywodraeth yn bwriadu gwario dros £3 miliwn ar 1,800 o beiriannau osôn sydd wedi’u datblygu gan Brifysgol Abertawe.
Mae’r peiriannau hyn yn creu’r nwy gwenwynig osôn sy’n diheintio’r aer cyn ei droi yn ôl i Ocsigen dros gyfnod o amser.
Dywedodd Jeremy Miles bydd y peiriannau’n cael eu rhoi ar brawf cyn ymrwymo’n llawn i’w prynu.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio darparu mesuryddion Co2 yn ystod tymor yr Hydref, ac mae Ynys Môn wedi bod yn defnyddio’r peiriannau ers tipyn.
Mae Siân Gwenllian yn mynnu y dylid rhoi’r gorau i gynllun peiriannau osôn gan ddweud y dylid edrych ar ddulliau eraill i sicrhau diogelwch yn y dosbarth.
“Rwy’n gobeithio y bydd penderfyniad buan i dynnu’r plwg ar y cynllun peiriannau osôn ac y gellid defnyddio’r £3 miliwn i gefnogi ysgolion i wella cylchrediad aer fel dull sydd wedi ei brofi i fod yn effeithiol iawn i atal lledaeniad y feirws.”
Mae Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd wedi dweud fod yr adolygiad yn parhau ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ar hyn o bryd.