Bydd nifer o rieni yn falch o weld eu plant yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yr wythnos hon wedi gwyliau’r haf.

Ond nid ‘aer’ yw popeth melyn gyda’r posibilrwydd bod gronynnau Covid hefyd yn crwydro’r coridorau gyda’r disgyblion.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyflawnodd Llywodraeth Cymru dro pedol ar eu penderfyniad gwreiddiol i roi peiriannau diheintio aer mewn ystafelloedd dosbarth.