Yn dilyn trafodaethau gydag Joe Biden, mae Boris Johnson wedi cyfaddef na fydd yn negodi cytundeb masnach rydd gyda’r Unol Daleithiau.

Ar ôl mwy na 90 munud o drafodaethau gyda’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn, cyfaddefodd y Prif Weinidog ei fod ar hyn o bryd ddim ond yn ceisio gwneud “camau cychwynnol a chynyddol” o ran masnach.

Croesawodd Boris Johnson y newyddion y byddai gwaharddiad ar fewnforio cig oen o Brydain yn yr Unol Daleithiau yn cael ei godi.

Fodd bynnag, cafodd ei orfodi i gydnabod nad oes cytundeb masnach rydd ar y gorwel – rhywbeth oedd yn cael ei arddel ganddo fel un o brif fendithion Brexit.

Wrth siarad â gohebwyr y tu allan i adeilad Capitol yr Unol Daleithiau yn Washington, dywedodd y Prif Weinidog: “Gallaf ddweud wrthych heddiw mai’r hyn yr ydym yn mynd i’w gael gan yr Unol Daleithiau yw codi’r gwaharddiad sydd mewn grym ers degawdau, yn gwbl ddiamod, yn gwahaniaethu ar ffermwyr Prydain a chig oen Prydain.

“Mae’n hen bryd hefyd. A’r hyn yr ydym am ei wneud yw gwneud camau cadarn a chynyddol o ran masnach.

“Nid yw gweinyddiaeth Biden yn gwneud cytundebau masnach rydd ledled y byd ar hyn o bryd ond mae gen i bob hyder fod yno gytundeb gwych yno i’w gwneud.

“Ac mae digon o bobol yn yr adeilad yna tu ôl i mi sydd yn sicr eisiau cytundeb.”

Dywedodd Stryd Downing bod Boris Johnson wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r arlywydd am y datblygiadau gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon yn ystod eu cyfarfod yn y Tŷ Gwyn.

Rhybuddiodd Joe Biden y Deyrnas Unedig i beidio â difrodi’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon oherwydd Brexit.

Ni wnaeth wrthod yr honiad, a wnaed gan Barack Obama adeg refferendwm Brexit, y byddai Prydain yng “nghefn y ciw” ar gyfer cytundeb masnach rydd ar ôl Brexit.

Wrth eistedd wrth ymyl Boris Johnson, dywedodd Joe Biden wrth ohebwyr: “Rydyn ni’n mynd i siarad ychydig am fasnach heddiw ac rydyn ni’n mynd i orfod gweithio ar hynny.”

Dywedodd ei fod yn teimlo’n “gryf iawn” am faterion yn ymwneud â’r broses heddwch, wrth i broblemau gyda’r protocol barhau.

Dywedodd y Tŷ Gwyn fod Joe Biden “wedi ailadrodd ei gefnogaeth hirsefydlog i Ogledd Iwerddon ddiogel a llewyrchus lle mae gan bob cymuned lais ac yn mwynhau buddion heddwch”.

Mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio aildrafod telerau’r cytundeb Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r protocol yn golygu bod Gogledd Iwerddon i bob pwrpas ym marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nwyddau, er mwyn osgoi ffin galed ag Iwerddon, sy’n creu rhwystr masnach i gynhyrchion sy’n croesi Môr Iwerddon rhwng Gogledd Iwerddon a Phryfain Fawr.