Mae cwmni teledu Netflix wedi cyhoeddi bod ganddyn nhw’r ‘tocyn aur’ i holl waith Roald Dahl.
Bydd gan y platfform ffrydio reolaeth dros bob un o’i nofelau, fel Matilda a Charlie and the Chocolate Factory.
Hefyd, byddan nhw’n creu gemau, sioeau llwyfan, a phrofiadau byw eraill yn seiliedig ar waith yr awdur o Landaf, Caerdydd.
Mae’n debyg mai dyma yw’r mwyaf mae Netflix wedi ei wario mewn un tro, gan brynu The Roald Dahl Story Company oddi wrth deulu Roald Dahl. Bydd y cwmni bellach yn isadran o fewn Netflix.
Roedd y teulu wedi bod yn berchen ar ei ystâd ers iddo farw ym 1990, a’i ŵyr, Luke Kelly, sydd wedi bod yn ei redeg.
Yn ôl adroddiadau, mae 19 o sioeau teledu neu lwyfan, ffilmiau, a phrofiadau byw wrthi’n cael eu cynhyrchu neu ar y gweill.
Dywedodd llefarydd ar ran Netflix eu bod nhw’n “gyffrous i gyhoeddi bod The Roald Dahl Story Company (RDSC) a Netflix yn ymuno i ddod â rhai o straeon mwyaf poblogaidd y byd i ffans y presennol a’r dyfodol mewn ffyrdd newydd a chreadigol.”