Bydd disgwyl i ddarlledwyr cyhoeddus gan gynnwys S4C a BBC Cymru Wales gynhyrchu rhaglenni Prydeinig eu natur, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wrth gamu mewn am Oliver Dowden a gafodd ei symud o’r portffolio diwylliant ddoe, dywedodd John Whittingdale, Gweinidog y Cyfryngau ar y pryd, mewn araith i gynhadledd y Gymdeithas Deledu Frenhinol ei fod yn bwriadu “siarad ag Ofcom am sut i wneud i’r rhwymedigaeth o Brydeindod weithio”.
Ofcom yw’r corff sy’n rheoleiddio cynnwys darlledu ar deledu a radio yn y Deyrnas Unedig.
Y bwriad, meddai, yw sicrhau bod rhaglenni sy’n “nodweddiadol Brydeinig” yn cael eu creu i’w darlledu ar sianeli ledled y Deyrnas Unedig, gan adlewyrchu ‘gwerthoedd’ y wlad.
Cyfeiriodd at ffilmiau Carry On a rhaglenni comedi fel Only Fools and Horse, Blackadder Goes Forth, Fleabag a Gogglebox fel enghreifftiau o raglenni Prydeinig.
Cynnwys ‘Prydeinig iawn’
“Felly yn ein Papur Gwyn sydd ar y gweill,” meddai John Whittingdale mewn sylwadau sydd wedi’u dyfynnu gan The Times, “rwy’n bwriadu cynnwys cynigion a fydd yn ehangu cylch gwaith darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel ei fod yn cynnwys gofyniad iddynt gynhyrchu cynnwys ‘Prydeinig iawn'”.
Daw hyn yn sgil buddsoddiad mawr mewn cynnwys rhaglenni Prydeinig gan gwmnïau mawr fel Netflix, Amazon a Disney.
Serch hyn, roedd y Gweinidog yn poeni bod y rhaglenni hyn yn cael eu creu ar gyfer cynulleidfaoedd byd-eang yn hytrach na chynulleidfa benodol Prydeinig – gan gyfeirio at raglenni fel Sex Education ar Netflix, oedd wedi ei ffilmio yng Nghymru ond fod y lleoliad yn anhysbys yn y rhaglen.
Dywedodd fod cwmnïau mawr yn niweidiol i greadigrwydd a thalent Prydeinig ac mae e am weld buddsoddiad o dramor yn “adlewyrchu bywydau pobol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn hytrach na chreu cynnwys generig”.
Whittingdale wedi went
Roedd disgwyl i’r araith gael ei rhoi gan Oliver Dowden cyn iddo gael ei ddisodli fel Ysgrifennydd Diwylliant gan Nadine Dorries yn yr ad-drefnu ddoe (dydd Mercher, Medi 15).
Heddiw, ddiwrnod ar ôl yr araith, collodd John Whittingdale yntau ei swydd wrth i Boris Johnson barhau â’i ad-drefnu.
Trydarodd: “Mae’n ddrwg gen i fod yn camu lawr fel Gweinidog y Cyfryngau a Data a ffarwelio â thîm gwych o weinidogion a swyddogion.
“Mae wedi bod yn fraint cael chwarae rhan wrth lunio dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU ac wrth ddiwygio ein deddfau data gan ddefnyddio ein rhyddid Brexit newydd.”
Ymateb y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
Wrth ymateb i’r sylwadau yn yr araith, mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi galw’r cynlluniau’n rhai “annemocrataidd a pheryglus”.
Mewn datganiad dywedodd y Cyngor bod y cynlluniau’n “codi llawer o gwestiynau pwysig … parthed y diffiniad o ‘Brydeinig'” gan ddweud bod “y sylw yn y wasg i’r pandemig yn parhau i brofi bod ‘Prydeinig’ yn cael ei ddiffinio’n amlach na pheidio gan y cyfryngau prif ffrwd i olygu ‘Seisnig’.”
Dywed datganiad y Cyngor Cyfathrebu fod y cynlluniau hefyd yn “codi cwestiwn pwysig ynglyn a phwy, heblaw am bobl Cymru, sydd a’r hawl i bennu cynnwys sianeli teledu Cymru?”
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: ‘Yma eto gwelwn reswm cryf i ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru ar frys.
“Rydym yn galw ar ein Llywodraeth Lafur i gymryd camau pendant i’r cyfeiriad hwn fel mater o frys.’
Ar hyn o bryd, meddai’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, maent yn gweithio ar reoliadau cyfathrebu a darlledu addas ar gyfer Cymru, gan baratoi’r ffordd ar gyfer eu datganoli.