Mae’r heddlu wedi cyhoeddi apêl ar ôl i dân achosi difrod sylweddol i guddfan adar yr RSPB yng Nghaernarfon.

Cyhoeddodd swyddogion o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru yr apêl ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach ddoe (dydd Mercher, Medi 15).

Dywed y llu fod cuddfan adar ‘Y Foryd’ yn Saron, Caernarfon wedi ei difrodi’n “sylweddol” yn sgil yr hyn maen nhw’n ei thrin fel gweithred o losgi bwriadol.

Mae lle i gredu bod y cwt, sy’n edrych dros Ddinas Dinlle, wedi’i roi ar dân yn fwriadol rywbryd rhwng dydd Sul, Medi 5 a dydd Sul, Medi 12.

Apêl

Mewn apêl ar y cyd gyda’r RSPB, mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r digwyddiad, neu a allai fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad, i gysylltu â nhw.

“Mae’r Tîm Troseddau Gwledig a’r RSPB yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod cuddfan adar yng Nghaernarfon wedi’i gosod yn fwriadol,” meddai’r Tîm Troseddau Gwledig.

“Cafodd y guddfan adar ‘Foryd’ yn Saron, sy’n edrych dros Ddinas Dinlle, ei difrodi’n sylweddol yn y tân, ac mae swyddogion yn ei thrin fel tân bwriadol.

“Deellir bod y digwyddiad wedi digwydd rhywbryd rhwng dydd Sul, 5 Medi a dydd Sul, 12 Medi.

“Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un â gwybodaeth, gysylltu â’r heddlu ar 101, neu drwy’r wefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Z135264.”