Mae Mark Isherwood, llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy o arian i “dynnu pobol allan o dlodi.”
Dywed fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £8.6bn gan Lywodraeth Prydain ers dechrau’r pandemig, a bod angen iddyn nhw wario’r arian i leihau tlodi ar draws y wlad, yn hytrach na bod pobol yn “ddibynnol ar arian lles.”
Fe wnaeth y sylwadau mewn dadl yn y Senedd am dorri’r Credyd Cynhwysol – penderfyniad y mae’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi ei wneud.
Yn rhan o’r cynlluniau hynny, bydd yr £20 yr wythnos ychwanegol sy’n cael ei roi i deuluoedd yn cael ei dorri o’r gyllideb erbyn mis Hydref.
‘Angen adeiladu’n ôl yn well’
Yn ôl Mark Isherwood, roedd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn datgan bod gan Lywodraeth Cymru “o leiaf £2.6bn yn ychwanegol ar gael” ar gyfer 2021-22.
Mae’n dweud y dylai’r arian yma gael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â thlodi, yn hytrach na chadw’r Credyd Cynhwysol fel ag y mae.
“Mae angen buddsoddi’r arian hwn i adeiladu’n ôl yn well, tynnu pobl allan o dlodi, a’u hatal rhag treulio bywyd sy’n ddibynnol ar les, wrth gynnal hyblygrwydd o amgylch y Gronfa Cymorth Dewisol ar yr un pryd,” meddai.
“Roedd adroddiad ‘Poverty in Wales 2020’ [gan Sefydliad Joseph Rowntree] wedi canfod fod Cymru yn talu llai o arian na gweddill y Deyrnas Unedig i weithwyr ym mhob sector, a bod bron i chwarter pobol Cymru mewn tlodi ac yn byw bywydau ansicr.
“Ac fel nododd Sefydliad Bevan hefyd, roedd tlodi yn broblem sylweddol yng Nghymru ymhell cyn Covid-19.
“Mae hyn er gwaetha’r biliynau o bunnoedd sydd wedi ei dderbyn a’i wario gan sawl Llywodraeth yng Nghymru, ac sydd i fod i fynd i’r afael â’r bwlch ffyniant.”
Credyd Cynhwysol
Ar y llaw arall, mae ambell aelod Ceidwadol yn San Steffan yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain ar gyfer y Credyd Cynhwysol.
Dywed Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol dros Breseli Penfro, y dylai’r Ceidwadwyr fod yn “sefyll ochr yn ochr” â phobol fel gweithwyr archfarchnadoedd, glanhawyr a gofalwyr.
Ychwanega’r y cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ei bod hi’n aneglur pam fod y Llywodraeth eisiau cael gwared â’r £20 ychwanegol, ac nad dyna’r “ffordd iawn i ddelio â pholisi lles”.
Roedd y Blaid Lafur wedi cyflwyno cynnig yn gofyn bod y cynlluniau’n cael eu diddymu, ac fe wnaeth aelodau ei gefnogi o 253 pleidlais i 0.
Fe wnaeth pedwar aelod Ceidwadol fynd yn erbyn safiad eu plaid eu hunain yn y bleidlais, a doedd Stephen Crabb ddim yn un ohonyn nhw.
Mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb gan ddweud nad yw’r cynnig yn rhwymol, ac nad oes rhaid iddyn nhw weithredu.