Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu ffair arfau ddadleuol eto eleni.
Daw hyn yn dilyn adolygiad i benderfynu a ddylai’r weinyddiaeth barhau i fynd i’r digwyddiad Cyfarpar Amddiffyn a Diogelwch Rhyngwladol (DSEI).
Yn ôl Llywodraeth Cymru, “nifer fach o swyddogion” wnaeth fynychu’r digwyddiad yn Llundain.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am wario arian cyhoeddus ar “y digwyddiad dirmygus hwn”.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai swyddogion y llywodraeth fynychu’r digwyddiad.
“Mae’r sector hollbwysig hwn yn werth mwy na £19bn i economi’r Deyrnas Unedig ac mae Cymru’n cael budd o’r swyddi y mae’r sector yn eu darparu,” meddai llefarydd ar ran y Cediwadwyr Cymreig.
‘Diwydiant dirmygus’
Mae’r gymdeithas fasnach Aerospace Wales wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r digwyddiad, a ddechreuodd yn Llundain ddydd Mawrth (Medi 14).
Mae DSEI yn cael ei chynnal bob dwy flynedd gyda chefnogaeth Gweinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi gwahodd 62 o wledydd i DSEI, gan gynnwys yr Aifft, Saudi Arabia a Cholombia, a oedd ar restr gwylio hawliau dynol 2019 y llywodraeth.
“Mae Plaid Cymru yn condemnio unrhyw gamau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwerthu arfau dinistr,” meddai Heledd Fychan, llefarydd materion rhyngwladol Plaid Cymru.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio i atal gweithredu o’r fath, ond yn hytrach maent yn rhoi arian cyhoeddus tuag at barhau i gefnogi’r digwyddiad dirmygus hwn.”
Stondin yn y Ffair
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol yn y sioe dros y deng mlynedd diwethaf, ac wedi cael stondin yn 2019.
Mynychodd y Gweinidogion yn 2015 a 2017.
Yn hytrach na chael ei stondin eu hunain yn y digwyddiad pedwar diwrnod eleni, mae’r Llywodraeth wedi talu i Fforwm Awyrofod Cymru “arwain presenoldeb Cymru”.
Mae’r fforwm yn disgrifio’i hun fel y “gymdeithas fasnach ar gyfer pob cwmni sy’n gweithredu yn y sectorau awyrofod, amddiffyn a gofod yng Nghymru” a bydd ganddi ei safiad ei hun.
Llywodraeth Cymru
Dywed Llywodraeth Cymru fod “nifer fach” o swyddogion hefyd wedi cael eu hanfon i gefnogi cwmnïau “gyda phresenoldeb yng Nghymru, fel Airbus, Thales, General Dynamics, Jacobs a Qinetiq”.
Yn 2019, dywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, y byddai’n adolygu presenoldeb Cymru yn y Ffair.
Nododd mai cael swyddogion yn bresennol “i gefnogi cwmnïau Cymreig sy’n bwysig, nid yn uniongyrchol yn yr ardal arfau, ond mewn materion eraill, fel seiberddiogelwch”.