Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Sbaen a Chatalwnia i geisio datrys yr anghydfod rhyngddyn nhw dros annibyniaeth.
Mae Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, yn rhybuddio na fydd ateb cyflym i’r sefyllfa yn dilyn cyfarfod oedd wedi para dwy awr, ond mae’n dweud bod parhau i drafod yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol.
“Mae ein safbwyntiau’n wahanol iawn,” meddai.
“Mae’n bwysig pwysleisio hynny.
“Bydd angen i ni drafod tipyn, gwrando ar ein gilydd a gwneud ymdrech i gyd-dynnu o ran ein safbwyntiau lle gallwn ni.
“Dydyn ni ddim yn mynd i ddatrys argyfwng sydd wedi para degawd mewn un diwrnod.
“Ond rydym yn cytuno mai’r trafodaethau hyn yw’r ffordd orau ymlaen.”
Catalwnia yn mynnu refferendwm annibyniaeth
Mae Pere Aragones, arweinydd Catalwnia, yn parhau i fynnu bod angen i Sbaen awdurdodi refferendwm annibyniaeth a chyhoeddi amnest ar gyfer unrhyw un sy’n wynebu achos cyfreithiol am eu rhan yn yr ymgyrch.
Ond mae Pedro Sanchez am ganolbwyntio ar yr economi a lles gan barhau i wrthod yr hawl i gynnal refferendwm.
Does dim disgwyl unrhyw fath o gynnydd adeiladol ar ddiwedd y trafodaethau, er bod Pere Aragones yn dweud eu bod nhw’n cynnig “cyfle hanesyddol”.
Yn ôl ymgyrchwyr, gallai’r trafodaethau danseilio’r ymdrechion ar lawr gwlad i geisio annibyniaeth.
Mae polau’n awgrymu mai cael a chael fyddai hi pe bai refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Ers 2017, fe fu ffrae rhwng Sbaen a Chatalwnia ar ôl i Lywodraeth Sbaen wrthod cydnabod refferendwm answyddogol gan ddweud ei fod yn “anghyfansoddiadol”.
Mae’r naw arweinydd a gafodd eu carcharu yn sgil yr helynt wedi cael pardwn, ond mae’r cam hwnnw wedi’i feirniadu’n helaeth yn Sbaen.
Fis Chwefror 2020, yn dilyn trafodaethau rhwng Pedro Sanchez a’r cyn-arweinydd Quim Torres, roedd cytundeb i gynnal trafodaethau bob mis ond cawson nhw eu gohirio yn sgil Covid-19.