Mae’r archfarchnad Marks & Spencer yn dweud y bydd yn cau 11 o siopau yn Ffrainc oherwydd problemau cyflenwi bwyd ffres ac oer yn dilyn Brexit.

Fe wnaeth y grŵp feio Brexit am y penderfyniad i gau pob un o’r siopau masnachfraint gyda’u partner SFH yn Ffrainc.

“Mae’r prosesau allforio hir a chymhleth sydd bellach ar waith ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn cyfyngu’n sylweddol ar y cyflenwad o gynnyrch ffres ac oer o’r Deyrnas Unedig i Ewrop ac yn parhau i effeithio ar argaeledd cynnyrch i gwsmeriaid a pherfformiad ein busnes yn Ffrainc,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

Bydd y siopau, sydd wedi’u lleoli’n bennaf ar strydoedd Paris, yn cau erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywed Marks & Spencer eu bod yn parhau i fod mewn trafodaethau â’u partner Lagardere Travel Retail tros y naw siop Ffrangeg sy’n weddill mewn meysydd awyr a gorsafoedd rheilffordd.

Dydy eu gwefan yn Ffrainc, sy’n gwerthu dillad a chynhyrchion cartref yn bennaf, ddim yn cael ei heffeithio, meddai’r grŵp.

‘Amhosibl’

“Mae gan M&S hanes hir o wasanaethu cwsmeriaid yn Ffrainc ac nid yw hyn yn benderfyniad yr ydym ni na’n partner SFH wedi’i wneud yn ysgafn,” meddai Paul Friston, rheolwr gyfarwyddwr M&S International.

“Fodd bynnag, fel y mae pethau heddiw, mae cymhlethdodau’r gadwyn gyflenwi sydd ar waith yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd bellach yn ei gwneud yn amhosibl i ni weini cynnyrch ffres ac oer i gwsmeriaid i’r safonau uchel y maent yn eu disgwyl, gan arwain at effaith barhaus ar berfformiad ein busnes.”